
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau adeg y tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n wahanol, mae cyfeiriadau —
(a) at gorff llywodraethu yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig; a
(b) at bennaeth yn gyfeiriadau at bennaeth ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig.
3 

(1) Yn y rheoliad hwn bydd y term “corff llywodraethu” yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ysgol newydd.
(2) Wrth arfer eu swyddogaethau, yr egwyddorion a nodir isod yn y rheoliad hwn fydd cylch gwaith y corff llywodraethu.
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu weithredu gydag uniondeb, gwrthrychedd a gonestrwydd ac er lles yr ysgol.
(4) Rhaid i'r corff llywodraethu fod yn agored ynglŷn â'r penderfyniadau a'r camau y byddant yn eu cymryd ac yn benodol rhaid iddynt fod yn barod i esbonio eu penderfyniadau a'u camau i bersonau sydd â diddordeb.
(5) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (4) i'w gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu ddatgelu deunydd ynghylch —
(a) athro neu athrawes a enwir neu berson arall a gyflogir neu a gymerir ymlaen, neu y bwriedir ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen, yn yr ysgol; neu
(b) disgybl a enwir yn yr ysgol, neu ddarpar ddisgybl sy'n aros i gael ei dderbyn i'r ysgol; neu
(c) unrhyw fater, o achos ei natur, y mae'r corff llywodraethu neu un o bwyllgorau'r corff llywodraethu wedi'i fodloni y dylai aros yn gyfrinachol.
4 

(1) Yn y rheoliad hwn bydd y term “corff llywodraethu” yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ysgol newydd.
(2) Dyletswydd y corff llywodraethu a'r pennaeth fydd arfer eu priod swyddogaethau gan roi sylw priodol i'r angen —
(a) i ddileu gwahaniaethu'n anghyfreithlon ar sail hil neu ryw; a
(b) i hybu cyfleoedd cyfartal a pherthynas dda -
(i) rhwng personau o wahanol grwpiau hiliol, a
(ii) rhwng gwrywod a benywod.
(3) Ni fydd dim ym mharagraff (2) yn atal y corff llywodraethu na'r pennaeth rhag cymryd y mesurau priodol i gadw cymeriad crefyddol yr ysgol.
(4) Mae'r rheoliad hwn heb ragfarn i unrhyw ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy'n ei gwneud yn ofynnol neu sy'n caniatáu i'r corff llywodraethu neu'r pennaeth weithredu mewn ffordd a fyddai, ar wahân i'r ddarpariaeth honno, yn gyfystyr â gwahaniaethu'n anghyfreithlon.
5 

(1) Rhaid i'r corff llywodraethu arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol yn fras yng ngwaith rheoli'r ysgol.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu sefydlu fframwaith strategol i'r ysgol —
(a) drwy bennu nodau ac amcanion i'r ysgol;
(b) drwy bennu polisïau i'r ysgol ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion;
(c) drwy osod targedau ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion.
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu fonitro a gwerthuso cynnydd yn yr ysgol o ran cyrraedd y nodau a'r amcanion a bennwyd a rhaid iddynt adolygu'n rheolaidd y fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw.
(4) Wrth arfer y swyddogaethau ym mharagraffau (2) a (3) uchod, rhaid i'r corff llywodraethu—
(a) ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y pennaeth o dan reoliad 6(2) isod, a
(b) (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol arall) gydymffurfio ag unrhyw weithred ymddiriedolaeth sy'n berthnasol i'r ysgol.
(5) Rhaid i'r corff llywodraethu weithredu fel “cyfaill beirniadol” i'r pennaeth, hynny yw, rhaid iddynt gefnogi'r pennaeth wrth iddo gyflawni swyddogaethau'r swydd a rhoi beirniadaeth adeiladol i'r pennaeth pan fydd angen.
6 

(1) Bydd y pennaeth yn gyfrifol am drefniadaeth a rheolaeth fewnol yr ysgol, ac am weithredu'r fframwaith strategol a sefydlwyd gan y corff llywodraethu.
(2) Rhaid i'r pennaeth gynghori'r corff llywodraethu ar sefydlu ac adolygu'r fframwaith strategol ac yn benodol rhaid iddo lunio:
(a) nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol;
(b) polisïau i'r ysgol ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion a bennwyd gan y corff llywodraethu; ac
(c) targedau ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion hynny,
y gall y corff llywodraethu eu mabwysiadu (gydag addasiadau neu hebddynt) neu eu gwrthod.
(3) Rhaid i'r pennaeth gyflwyno adroddiad o leiaf unwaith bob blwyddyn ysgol i'r corff llywodraethu ar y cynnydd a wnaed at gyrraedd y nodau a'r amcanion a bennwyd ac yn arbennig at fodloni'r targedau penodol a osodwyd.
7 
Wrth benderfynu a ddylid arfer unrhyw bwer i ddirprwyo eu swyddogaethau a sut y dylid gwneud hynny, gan gynnwys y pŵ er cyffredinol yn Rheoliad 41 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999 rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i'r canlynol—
(a) y gofyniad yn rheoliad 5 uchod y dylent arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol yn fras yng ngwaith rheoli'r ysgol; a
(b) cyfrifoldeb y pennaeth am drefniadaeth a rheolaeth fewnol yr ysgol.
8 
Rhaid i'r pennaeth gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd rhesymol gan y corff llywodraethu wrth gyflawni unrhyw swyddogaethau a ddirprwyir iddo ef neu iddi hi gan y corff llywodraethu.
9 

(1) Rhaid i'r pennaeth lunio polisi ar gyfer cwricwlwm seciwlar yr ysgol (“y polisi cwricwlwm”) i'w fabwysiadu gan y corff llywodraethu (gydag addasiadau neu hebddynt).
(2) Rhaid i'r pennaeth adolygu'r polisi cwricwlwm bob blwyddyn ysgol a llunio newidiadau i'r polisi cwricwlwm i'r corff llywodraethu eu mabwysiadu (gydag addasiadau neu hebddynt).
(3) Rhaid i'r pennaeth weithredu'r polisi cwricwlwm fel y'i mabwysiadwyd gan y corff llywodraethu.
(4) Rhaid i'r corff llywodraethu —
(a) ystyried y polisi cwricwlwm ac, os gwelant yn dda, ei fabwysiadu (gydag addasiadau neu hebddynt), neu ei ddychwelyd i'r pennaeth ar gyfer ei ail-lunio;
(b)  monitro, gwerthuso ac adolygu gweithredu'r polisi cwricwlwm; ac
(c) ystyried unrhyw newidiadau i'r polisi cwricwlwm a gynigir gan y pennaeth a'u mabwysiadu, fel y gwelant orau (gydag addasiadau neu hebddynt).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2000