
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.
2 
Yn rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) 1999 (cyflawni dyletswyddau'r corff llywodraethu), yn gymaint â'i fod yn ymwneud â Chymru, rhoddir “50” yn lle “30”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2000