
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2000.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw corff y mae rheoliad 3(2) yn gymwys iddo;
 ystyr “contract Gwasanaeth Iechyd Gwladol” yw'r ystyr a roddir i “NHS contract” yn adran 4(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990;
 ystyr “corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service body”) yw corff y mae rheoliad 3(1) yn gymwys iddo;
 ystyr “cynllun gwella iechyd” (“health improvement plan”) yw cynllun y mae'n ofynnol i Awdurdod Iechyd ei baratoi o dan adran 28 o'r Ddeddf;
 ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;
 ystyr “partneriaid” (“partners”), mewn perthynas â threfniadau partneriaeth, yw un neu fwy o gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac un neu fwy o awdurdodau lleol;
 ystyr “swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service functions”) yw swyddogaethau cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ragnodir o dan reoliad 5;
 ystyr “swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd” (“health related functions”) yw swyddogaethau'r awdurdodau lleol a ragnodir o dan reoliad 6; ac
 ystyr “trefniadau partneriaeth” (“partnership arrangements”) yw'r trefniadau a ragnodir o dan reoliadau 7, 8 a 9.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
3 

(1) Y cyrff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ragnodir at ddibenion adran 31 o'r Ddeddf yw —
(a) Awdurdod Iechyd; a
(b) Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
(2) Yr awdurdodau lleol a ragnodir at ddibenion adran 31 o'r Ddeddf yw —
(a) cyngor sir; a
(b) cyngor bwrdeistref sirol.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff y partneriaid wneud unrhyw drefniadau partneriaeth mewn perthynas ag arfer —
(a) unrhyw un o swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a
(b) unrhyw swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd,
os yw'r trefniadau partneriaeth yn debyg o arwain at wella'r ffordd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer.
(2) Ni chaiff y partneriaid wneud unrhyw drefniadau partneriaeth oni bai eu bod wedi ymgynghori ar y cyd â'r personau hynny y mae'n ymddangos iddynt y bydd y trefniadau hynny yn effeithio arnynt.
(3) Ni chaiff y partneriaid wneud unrhyw drefniadau partneriaeth nad ydynt yn cyflawni'r amcanion a nodir yng nghynllun gwella iechyd yr Awdurdod Iechyd y bwriedir i'r trefniadau i weithredu yn ei ardal.
5 
Dyma swyddogaethau cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol —
(a) swyddogaeth darparu, neu drefnu darparu, gwasanaethau —
(i) o dan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf 1977, gan gynnwys gwasanaethau adsefydlu a gwasanaethau y bwriedir iddynt osgoi derbyn cleifion i'r ysbyty ond heb gynnwys llawfeddygaeth, radiotherapi, terfynu beichiogrwydd, endosgopi, defnyddio triniaethau laser Dosbarth 4 a thriniaethau trychiadol eraill a gwasanaethau ambiwlansys brys; a
(ii) o dan adran 5(1), (1A) ac 1(B) o Ddeddf 1977, ac Atodlen 1 iddi; a
(b) y swyddogaethau o dan adrannau 25A i 25H a 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
6 
Dyma'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd —
(a) y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970 ac eithrio swyddogaethau o dan —
(i) adrannau 22, 23(3), 26(2) i (4), 43, 45 a 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;
(ii) adrannau 6 a 7B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970;
(iii) adrannau 1 a 2 o Ddeddf Mabwysiadu 1976;
(iv) adrannau 114 a 115 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
(v) Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984); a
(vi) Rhannau VII i X ac adran 86 o Ddeddf Plant 1989;
(b) y swyddogaethau o dan adrannau 5, 7 neu 8 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986) ac eithrio i'r graddau y maent yn dyrannu swyddogaethau i awdurdod lleol yn rhinwedd eu swydd fel awdurdod addysg lleol;
(c) swyddogaethau darparu, neu sicrhau darparu, cyfleusterau hamdden o dan adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ;
(ch) swyddogaethau awdurdodau addysg lleol o dan y Deddfau Addysg fel y'u diffinnir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996;
(d) swyddogaethau awdurdodau tai lleol o dan Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996; ac o dan Rannau VI a VII o Ddeddf Tai 1996;
(dd) swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996;
(e) swyddogaethau casglu gwastraff neu waredu gwastraff o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(f) swyddogaethau darparu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd o dan adrannau 180 a 181 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972);
(ff) swyddogaethau awdurdodau priffyrdd lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 ac adran 39 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988); ac
(g) y swyddogaethau o dan adran 63 (cludiant i deithwyr) ac adran 93 (cynlluniau gostyngiadau tocynnau teithio) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985.
7 

(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y partneriaid wneud trefniadau ar gyfer sefydlu a chynnal cronfa neu mewn cysylltiad â sefydlu a chynnal cronfa (“trefniadau cyd-gronfa”) a gaiff eu ffurfio o gyfraniadau gan y partneriaid ac y gellir gwneud taliadau ohoni tuag at wariant a dynnir wrth arfer unrhyw rai o swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd.
(2) Ni chaiff partner sy'n ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud trefniadau cyd-gronfa gyda phartner sy'n awdurdod lleol oni fydd yn sicrhau cydsyniad pob Awdurdod Iechyd y mae ganddo gontract Gwasanaeth Iechyd Gwladol gydag ef ynghylch darparu gwasanaethau ar gyfer personau y gall y swyddogaethau sy'n destun y gyd-gronfa gael eu harfer mewn perthynas â hwy.
(3) Pan yw'r partneriaid wedi penderfynu gwneud trefniadau cyd-gronfa, rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud mewn ysgrifen a rhaid iddynt bennu —
(a) y nodau a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y trefniadau cyd-gronfa;
(b) y cyfraniadau sydd i'w gwneud gan bob un o'r partneriaid i'r gyd-gronfa a sut y gall y cyfraniadau hyn gael eu hamrywio;
(c) y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun y trefniadau;
(ch) y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy;
(d) y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau;
(dd) am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac
(e) sut mae'r gyd-gronfa i gael ei rheoli a'i monitro, gan gynnwys pa bartner fydd y partner lletyol yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i'r partneriaid gytuno y bydd un ohonynt (“y partner lletyol”) yn gyfrifol am y cyfrifon ac am yr archwilio ar gyfer trefniadau'r gyd-gronfa a rhaid i'r partner lletyol benodi un o'i swyddogion (“rheolydd y gyd-gronfa”) i fod yn gyfrifol am y canlynol —
(a) rheoli'r gyd-gronfa ar eu rhan, a
(b) cyflwyno adroddiadau chwarterol i'r partneriaid, ynghyd ag adroddiad blynyddol, ynghylch incwm a gwariant y gyd-gronfa a gwybodaeth arall y gall y partneriaid ei defnyddio i fonitro effeithiolrwydd trefniadau'r gyd-gronfa.
(5) Caiff y partneriaid gytuno y caiff un o swyddogion y naill bartner neu'r llall arfer y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun trefniadau'r gyd-gronfa.
(6) Rhaid i'r partner lletyol drefnu archwilio cyfrifon trefniadau'r gyd-gronfa a'i gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Archwilio wneud trefniadau ar gyfer ardystio adroddiad blynyddol ar y cyfrifon hynny o dan adran 28(1)(d) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998.
8 

(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y partneriaid wneud trefniadau i gyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol arfer swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd wrth i'r cyrff hynny arfer eu swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd.
(2) Pan yw'r partneriaid wedi penderfynu gwneud trefniadau o dan baragraff (1), rhaid i'r cytundeb gael ei wneud mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu —
(a) y nodau a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y trefniadau;
(b) y taliadau sydd i'w gwneud gan yr awdurdodau lleol i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sut y gall y taliadau hyn gael eu hamrywio;
(c) y swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd a swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae eu cyflawni yn destun y trefniadau;
(ch) y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy;
(d) y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau;
(dd) am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac
(e) y trefniadau sydd ar gael i fonitro sut mae'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c).
(3) Rhaid i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyflwyno adroddiadau i'r awdurdodau lleol, bob chwarter a phob blwyddyn, ynghylch arfer y swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun y trefniadau.
9 

(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y partneriaid wneud trefniadau i awdurdodau lleol arfer swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol wrth i'r awdurdodau hynny arfer eu swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd hefyd.
(2) Ni chaiff partner sy'n ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud trefniadau o dan baragraff (1) oni fydd yn sicrhau cydsyniad pob Awdurdod Iechyd y mae gan yr ymddiriedolaeth gontract Gwasanaeth Iechyd Gwladol gydag ef ynghylch darparu gwasanaethau ar gyfer personau y gall y swyddogaethau sy'n destun y trefniadau gael eu harfer mewn perthynas â hwy.
(3) Pan yw'r partneriaid wedi penderfynu gwneud trefniadau o dan baragraff (1), rhaid i'r cytundeb gael ei wneud mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu —
(a) y nodau a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y trefniadau;
(b) y taliadau sydd i'w gwneud gan y cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'r awdurdodau lleol a sut y gall y taliadau hyn gael eu hamrywio;
(c) y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae eu harfer yn destun y trefniadau;
(ch) y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy;
(d) y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau;
(dd) am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac
(e) y trefniadau sydd ar gael i fonitro sut mae'r awdurdodau lleol yn arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c).
(4) Rhaid i'r awdurdodau lleol gyflwyno adroddiadau i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol, bob chwarter a phob blwyddyn, ynghylch arfer y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n destun y trefniadau.
10 

(1) Mewn cysylltiad ag unrhyw drefniadau partneriaeth, caiff partner benderfynu darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety ar gyfer partner arall.
(2) Caiff y partneriaid ffurfio cyd-bwyllgor i gymryd y cyfrifoldeb dros reoli'r trefniadau partneriaeth gan gynnwys monitro'r trefniadau a derbyn adroddiadau a gwybodaeth am sut mae'r trefniadau'n cael eu gweithredu.
(3) Heb ragfarnu unrhyw weithdrefnau cwyno o dan Ddeddf Gweithdrefnau Cwyno Ysbytai 1985 neu o dan adran 7B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970 neu fel arall, pan yw'r partneriaid wedi ffurfio cyd-bwyllgor o dan baragraff (2) mewn perthynas â threfniadau partneriaeth, cânt gytuno bod is-bwyllgor, neu aelod o is-bwyllgor, yn cael ystyried cwynion am y trefniadau partneriaeth os caiff y cwynion eu gwneud gan ddefnyddwyr y gwasanaethau a ddarperir o dan y trefniadau partneriaeth neu ar ran y defnyddwyr hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Tachwedd 2000