
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru a sefydlir yn rhinwedd erthygl 2(2) o'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) 13 Tachwedd 2000 yw'r dydd a benodir i bob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(2) 1 Ebrill 2001 yw'r dydd a benodir i bob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau a bennir yno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Tachwedd 2000
ATODLEN 1
Erthygl 2(1)


 Adran 72 (Comisiynydd Plant Cymru)
 Atodlen 2

ATODLEN 2
Erthygl 2(2)


 Adran 54(1),(3)-(7) (Cynghorau Gofal) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor
 Adran 55 (Dehongli)
 Adran 113 (2)-(4) (Pwerau diofyn y Gweinidog priodol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor
 Adran 114 (Cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff) i'r graddau y mae'n ymwneud â Gorchymyn gan y Cyfrin Gyngor, neu argymhelliad i'w Mawrhydi i wneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, o dan Adran 70 o'r Ddeddf (Dileu y Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol) yn cynnwys cynllun ar gyfer trosglwyddo staff o'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i'r Cyngor
 Atodlen 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor
