
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) 1 Rhagfyr 2000 yw'r diwrnod penodedig y daw pob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym i'r graddau a bennir yno.
(2) 1 Ionawr 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw pob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i rym i'r graddau a bennir yno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Tachwedd 2000
ATODLEN 1
ERTHYGL 2(1)


 Darpariaethau'r Ddeddf sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2000.
 Adran 26 (Cydweithredu rhwng cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)
 Adran 27 (Cydweithredu rhwng cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol) (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (1A) o adran 22 Deddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)
 Adran 29(2)(a) a (3) ac adran 29(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hi (Taliadau gan gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i awdurdodau lleol) (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2B) o adran 28A o Ddeddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)
 Adran 30 (Taliadau gan awdurdodau lleol i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 28BB o Ddeddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)
 Adran 31 (Trefniadau rhwng cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol) (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)
 Adran 65(1) (Diwygiadau i ddeddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod)
 Atodlen 4—
 Is-baragraffau (2) a (4)(b) o baragraff 14, a pharagraffau 4 a 14(1) (i'r graddau y maent yn ymwneud â hwy)
 Is-baragraffau (3) a (4)(a) ac (e) o baragraff 14 (i'r graddau y maent yn ymwneud â thaliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 28A(2A) o Ddeddf 1977), a pharagraffau 4 a 14(1) (i'r graddau y maent yn ymwneud â hwy)

ATODLEN 2
ERTHYGL 2(2)


 Adran 32 (Cyd-bwyllgorau Ymgynghorol)
 Adran 65(1) (Diwygio deddfiadau)(i'r graddau y maent yn ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod)
 Atodlen 4—
 Paragraff 14 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym), a pharagraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraff hwnnw)
 Paragraff 72
