
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn ariannol daladwy ;
 ystyr “blwyddyn berthnasol”(“relevant year”) yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w benderfynu arno yn unol â'r Gorchymyn hwn ac ystyr “blwyddyn flaenorol berthnasol” yw'r flwyddyn sy'n dod cyn blwyddyn berthnasol;
 ystyr “dosbarth ar hereditamentau”(“a class of hereditaments”) yw'r hereditamentau hynny sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru yn rhinwedd rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog a Rhan 6 o'r Atodlen iddynt ac a feddiennir gan unrhyw un o'r personau dynodedig a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn
 Ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ;
 ystyr “ffactor ailgyfrif”(“recalculation factor”) mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yw'r ffactor y penderfynir arno mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw yn unol ag erthygl 7;
 ystyr “y fformwla safonol”(“the standard formula”) yw'r fformwla T + U lle —
(a) T yw'r swm a bennir mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yn yr Atodlen; a
(b) U yw'r ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol;
 ystyr “person dynodedig”(“designated person”) yw person a ddynodir gan reoliad 3(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog ac a enwir yn Rhan 6 o'r Atodlen iddynt; ac mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau, ystyr “person dynodedig perthnasol” yw'r person dynodedig sy'n meddiannu'r dosbarth hwnnw; ac
 ystyr “Rheoliadau Rhestr Ganolog”(“Central List Regulations”) yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at hereditamentau a feddiennir gan berson yn cynnwys cyfeiriad, yn achos hereditamentau nas meddiennir, at hereditamentau a berchnogir gan y person hwnnw gan ddehongli cyfeiriadau at feddiannaeth yn unol â hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn, neu yn yr Atodlen, at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar y dyddiad y cofnodir yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru.
3 
Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt—
(a) rhaid talgrynnu'r ffracsiwn i un bunt, os bydd yn fwy na 50c, a
(b) rhaid anwybyddu'r ffracsiwn os bydd yn 50c neu'n llai.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) 1994 wedi'i ddiddymu gydag effaith o 1 Ebrill 2000 i'r graddau ei fod yn gymwys i Gymru.
(2) Heb ragfarnu adran 16(1) o Ddeddf Ddehongli 1978, bydd darpariaethau'r Gorchymyn a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau'n weithredol ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny, at ddibenion y canlynol ac mewn cysylltiad â'r canlynol—
(a) unrhyw newid ar restr mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau a wneir o dan adran 58 o'r Ddeddf (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) o ran y swm taladwy ar gyfer hereditament am gyfnod perthnasol yn ôl diffiniad yr adran honno.
5 
Yn achos pob dosbarth ar hereditamentau, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny a'i werth arderthol fydd–
(a) yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, y swm a bennir mewn perthynas ag ef yn yr Atodlen ; a
(b) mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny (yn ddarostyngedig i erthygl 10) y swm a gynhyrchir mewn perthynas â'r flwyddyn honno drwy ddefnyddio'r fformwla safonol mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw.
6 

(1) Yn erthygl 7 mewn perthynas â phob dosbarth ar hereditamentau—
(a) mewn unrhyw fformwla—
 “y” yw'r cyfaint perthnasol o ddŵr mewn perthynas â'r cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben yn union cyn y flwyddyn berthnasol flaenorol;
 “Y”, yn ddarostyngedig i erthygl 7(3), yw'r cyfaint perthnasol o ddŵr mewn perthynas â'r cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 1999; a
 Rhif yw “Z” ac iddo'r un gwerth ag “y” yn y flwyddyn flaenorol ddiwethaf y penderfynwyd ar y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas ag ef yn unol ag erthygl 7(2); a
(b) ystyr “cyfaint perthnasol o ddŵr” mewn perthynas â pherson dynodedig perthnasol ac unrhyw gyfnod o dair blynedd yw'r cyfaint a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
(2) Y cyfaint perthnasol o ddŵr mewn perthynas â pherson dynodedig perthnasol ac unrhyw flwyddyn yw'r cyfartaledd blynyddol, dros y tair blynedd o dan ystyriaeth, wedi'i fynegi mewn megalitrau i'r ddegfed ran agosaf o fegalitr, o'r swm a amcangyfrifir yn unol ag is-baragraff (a) wedi tynnu'r swm a amcangyfrifwyd yn unol ag is-baragraff (b); sef—
(a) y cyfaint blynyddol o ddŵr yr amcangyfrifir iddo gael ei gyflenwi gan y person hwnnw yn ystod y cyfnod o dair blynedd, sef dŵr a gyflenwyd i—
(i) unrhyw berson arall mewn swmp-gyflenwad, sef at ddibenion ffurfio'r cyflenwad sydd i'w roi gan y person hwnnw neu ychwanegu ato; a
(ii) fel arall,
a thynnu hanner y swm blynyddol cyfartalog o ddŵr anyfadwy yr amcangyfrifir ei fod wedi cael ei gyflenwi mewn dull heb fod yn swmp-gyflenwad; a thynnu
(b) hanner y swm blynyddol cyfartalog yr amcangyfrifir ei fod wedi'i gymryd neu wedi'i swmp-gyflenwi yn ystod y cyfnod hwnnw o dair blynedd.
(3) Os na chyflenwodd y person dynodedig perthnasol ddŵr drwy gydol unrhyw flwyddyn mewn cyfnod o dair blynedd, bydd paragraff (2) yn gymwys fel pe rhoddid cyfeiriad at y cyfartaledd blynyddol dros y nifer o flynyddoedd y cyflenwyd y dŵr ynddynt yn lle'r cyfeiriad at y cyfartaledd blynyddol dros dair blynedd; ac at ddibenion y paragraff hwn diystyrir unrhyw doriad dros dro yn y cyflenwad.
7 

(1) Os, mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau ac unrhyw flwyddyn, bydd y gwerth y gellir ei briodoli i “y” yn llai na'r hyn a gynhyrchir drwy gyfrif yn unol â'r fformwla—Y102100(“y trothwy uchaf”) ac yn fwy na'r hyn a gynhyrchir drwy gyfrif yn yn unol â'r fformwla—Y98100(“y trothwy isaf”), bydd y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw—
(a) yn y flwyddyn gyntaf o'r fath yn 0, a
(b) yn ystod unrhyw flwyddyn ganlynol, yn ffigur hafal i'r ffactor ailgyfrif cymwysadwy yn unol â'r erthygl hon yn y flwyddyn flaenorol berthnasol.
(2) Os, mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn, bydd y gwerth y gellir ei briodoli i “y” mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yn hafal i'r trothwy uchaf neu'n fwy nag ef neu'n hafal i'r trothwy isaf neu'n is nag ef, bydd y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw yn ystod y flwyddyn honno yn ffigur a gynhyrchir drwy gyfrif yn unol â'r fformwla—Ty-Y1.5Y
(3) Mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau a blwyddyn sy'n dechrau ar ôl y blwyddyn y bydd paragraff (2) yn gymwys i'r dosbarth hwnnw yn gyntaf, bydd paragraff (1) yn gymwys fel pe rhoddid Z yn lle Y.
8 
Mewn perthynas ag erthyglau 9 a 10—
 ystyr “cynllun Atodlen 2” (“Schedule 2 scheme”) yw cynllun o dan Atodlen 2 i Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991;
 ystyr “hereditamentau Cymru” (“Welsh hereditaments”) yw'r hereditamentau cynllun ac unrhyw hereditamentau eraill a feddiennir gan drosglwyddai cynllun ac a ddangosir yn y rhestr ardrethu canolog i Gymru;
 ystyr “hereditamentau cynllun” (“scheme hereditaments”) yw hereditamentau a drosglwyddir gan gynllun Atodlen 2; ac
 ystyr “trosglwyddai cynllun”(“scheme transferee”) yw person dynodedig sydd, o ganlyniad i gynllun Atodlen 2, yn meddiannu dosbarth ar hereditamentau sydd, yn union cyn y diwrnod pan ddaw'r cynllun i rym, yn cael ei feddiannu gan berson dynodedig arall.
9 
Mae erthygl 10 yn gymwys at ddibenion penderfynu, mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod pan, yn unol â'r Rheoliadau Rhestr Ganolog, y dangosir hereditamentau Cymru a feddiennir gan drosglwyddai cynllun ar y rhestr ardrethu canolog, ar werth ardrethol (cyfan) hereditamentau Cymru.
10 

(1) Rhaid i werth ardrethol (cyfan) hereditamentau Cymru fod yn swm hafal i'r cyfanswm o'r symiau y penderfynasid arnynt, ond am gynllun Atodlen 2, ac yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, yn unol ag erthygl 5 fel gwerth ardrethol yr hereditamentau sy'n ffurfio hereditamentau Cymru.
(2) At ddibenion penderfynu ar y ffactor ailgyfrif sy'n gymwysadwy mewn blwyddyn berthnasol, bydd erthygl 7 yn gymwys fel pe anwybyddid, wrth gyfrif y swm a neilltuir i Y neu, mewn achos pan fydd erthygl 7(3) yn gymwys, y rhif a neilltuir i Z, ddŵr a gyflenwyd gan y trosglwyddai cynllun neu iddo i barti arall i gynllun Atodlen 2 neu ganddo.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2000D.
ATODLEN

Dee Valley Water plc £1,798,244
Dŵ r Cymru Cyfyngedig £29,730,304
North West Water Limited £874,556
Severn Trent Water Limited £4,048,616