
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2000
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(3) Mae rheoliad 10A o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993) a rheoliad 3(4) o Reoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) 1998 wedi'u diddymu.
2 

(1) Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn –
(a) mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” gan adran 2(3) a (5) o Ddeddf Addysg 1996);
(b) ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;
(c) ystyr “gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc” (“worker with children or young persons”) yw person a gyflogir –
(i) gan awdurdod addysg lleol, neu
(ii) gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad sy'n dod o fewn adran 218(10) neu (11) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988;
mewn gwaith, heblaw fel athro neu athrawes, sy'n dod â'r person hwnnw i gyswllt yn rheolaidd â phersonau ifanc sydd heb gyrraedd 19 mlwydd oed.
(ch) ystyr “sefydliad addysg bellach” (“further educaton institution”) yw sefydliad, nad yw'n ysgol, sy'n darparu addysg bellach (p'un a yw'n darparu addysg uwch hefyd neu beidio) ac sydd naill ai –
(i) yn cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol; neu
(ii) yn sefydliad yn y sector addysg bellach (o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992);
(d) ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gyflogaeth berthnasol yn gyfeiriad at gyflogaeth –
(a) gan awdurdod addysg lleol fel athro neu athrawes (p'un ai mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu beidio) neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc;
(b) gan unrhyw gorff arall, fel athro neu athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach;
(c) gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc;
(ch) gan berchennog ysgol annibynnol, fel athro neu athrawes neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc; a
(d) mewn ysgol annibynnol, fel athro neu athrawes neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyflogaeth yn cynnwys ymglymu person i ddarparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at gyflogaeth neu gyflogaeth berthnasol yn unol â hynny.
3 

(1)  Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â pherson y gwaherddir ei gyflogi, neu y cyfyngir ar ei gyflogi, ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir yn is-adran (6ZA)(a) i (d) o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, o dan reoliadau a wnaed o dan is-adran (6) o'r adran honno.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach, yr awdurdod addysg lleol i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw, a pherchennog ysgol annibynnol, gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i atal person nad yw'n cael ei gyflogi ganddynt mewn cyflogaeth berthnasol rhag darparu gwasanaethau mewn perthynas â'r ysgol neu'r sefydliad neu mewn perthynas â phersonau sy'n eu mynychu –
(i) sy'n cael eu darparu drwy ba gyfrwng bynnag a ph'un a ydynt o dan gontract neu fel arall; a
(ii) a fyddai'n dod â'r person hwnnw a fyddai'n eu darparu i gyswllt yn rheolaidd â phersonau sydd heb gyrraedd 19 mlwydd oed.
(3) Mae paragraff (2) ond yn gymwys mewn perthynas â pherson y mae ei gyflogaeth neu ei gyflogaeth bellach wedi'i chyfyngu (o'i gyferbynnu â'i gwahardd) os y byddai caniatáu i'r person ddarparu'r gwasanaethau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw, pe bai'n cael ei gyflogi gan gorff llywodraethu o'r fath neu awdurdod addysg lleol neu gan berchennog ysgol annibynnol mewn cyflogaeth berthnasol, yn groes i delerau'r cyfyngiad.
4 

(1) Os yw person —
(a) wedi ei ddiswyddo o gyflogaeth berthnasol ar sail camymddygiad (p'un a gaiff ei gollfarnu am dramgwydd troseddol neu beidio), neu
(b) wedi ymddiswyddo o dan amgylchiadau y byddai cyflogydd y person wedi'i ddiswyddo neu wedi ystyried ei ddiswyddo o danynt ar y sail honno pe na bai wedi ymddiswyddo,
rhaid i'r cyflogydd gyflwyno adroddiad am ffeithiau'r achos a rhoi unrhyw wybodaeth bellach am yr amgylchiadau a arweiniodd at y diswyddo neu'r ymddiswyddo, ac sydd ym meddiant neu o dan reolaeth y cyflogydd, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Ym mharagraff (1), mae'r cyfeiriad at “ddiswyddo o gyflogaeth berthnasol” yn cynnwys camau gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach i derfynu ymglymiad person i ddarparu gwasanaethau fel athro neu athrawes mewn cyflogaeth berthnasol heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at “ddiswyddo” yn unol â hynny ac mae'r cyfeiriad at “ymddiswyddo” yn cynnwys camau gan berson i derfynu ymglymiad o'r fath.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Hydref 2000