
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 22 Medi 2000.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999 wedi'u diddymu.
(3) Er hynny, bydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson y dyfarnwyd grant iddo o danynt os cafodd unrhyw daliad grant ei dalu gan y Cynulliad Cenedlaethol (neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan drefniadau cyfatebol a oedd yn gymwys yn Lloegr) cyn 22 Medi 2000 a bod y person yn parhau i ddilyn y cwrs y dyfarnwyd y grant mewn perthynas ag ef, neu wedi'i gwblhau.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sydd –
(a) yn athro neu athrawes gymwysedig yn unol â darpariaeth a wnaed gan neu o dan reoliadau a wnaed ar gyfer naill ai Cymru neu Loegr o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988; neu
(b) yn ôl penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol neu benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn athro neu athrawes gymwysedig yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed felly;
 ystyr “cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon” (“post-graduate teacher training course”) yw cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon sydd –
(a) yn cael ei ddarparu mewn sefydliad achrededig yng Nghymru; a
(b) yn golygu bod person sy'n ei gwblhau yn llwyddiannus yn dod yn athro neu athrawes gymwysedig;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ddarparydd cyrsiau sy'n bodloni unrhyw ddarpariaethau ynghylch cwricwla ac unrhyw feini prawf eraill a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol;
 ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig (o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998).
3 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y rheoliad hwn yn gymhellion i bersonau cymwys ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon.
(2) Mae'r pŵer a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan baragraff (1) uchod yn cynnwys pŵer i dalu grant i berson cymwys os yw'r person hwnnw –
(a) wedi cwblhau cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus mewn sefydliad yn Lloegr;
(b) wedi cael swm llawn unrhyw randaliadau grant a oedd yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod pryd yr oedd yn dilyn y cwrs o dan unrhyw drefniadau a oedd yn berthnasol yn Lloegr y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni eu bod yn cyfateb i'r trefniadau a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn; ac
(c) wedi ymgymryd â swydd addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
(3) Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr “cymwys” yw cymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
4 

(1) Ni thelir unrhyw daliad o dan reoliad 3 i berson –
(a) sydd eisoes wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon cyn 1 Medi 2000 neu sy'n dilyn cwrs o'r fath a ddechreuodd cyn 1 Medi 2000;
(b) a gyflogir i addysgu mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysgol arall (ac nad yw'n athro neu athrawes gymwysedig); neu
(c) y mae'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o reoliad 1 yn dal yn gymwys mewn perthynas â'r person yn rhinwedd paragraff (3) o'r Rheoliad hwnnw.
(2) Ni thelir unrhyw grant o dan reoliad 3 i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y fath ffurf, ac ar y pryd a chan gynnwys unrhyw fanylion y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.
(3) Ni chymerir bod dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu pŵ er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3.
5 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion y bydd grant a delir yn unol â rheoliad 3 yn ad-daladwy o danynt.
(2) Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir gosod gofyniad o dan baragraff (1) –
(a) os yw'n ofyniad sydd â'r nod o sicrhau bod diben rhoi'r grant yn cael ei gyflawni;
(b) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu'r grant os yw'r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad grant, yn methu â bodloni unrhyw un o'r meini prawf cymhwyster a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu
(c) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu grant os yw'r derbynnydd wedi rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu yn sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant neu mewn perthynas ag ef.
6 

(1) Rhaid i grantiau o dan reoliad 3 beidio â bod yn fwy nag unrhyw symiau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Gellir penderfynu ar wahanol symiau o dan baragraff (1) ar gyfer gwahanol achosion ac amgylchiadau.
(3) Yn achos grant sy'n daladwy i berson yn rhinwedd rheoliad 3(2), rhaid i'r cyfanswm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol beidio â bod yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng swm y grant y mae wedi'i gael oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y trefniadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr a'r swm y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) uchod fel yr uchafswm sy'n daladwy i berson sydd –
(a) yn cwblhau yn llwyddiannus, mewn sefydliad achrededig, gwrs o'r un disgrifiad â'r cwrs yn y sefydliad yn Lloegr;
(b) yn bodloni'r holl amodau perthnasol a geir yn y Rheoliadau hyn; ac
(c) yn bodloni unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3 a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Gall grantiau o dan reoliad 3 gael eu talu mewn un swm neu mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn benodol fod rhandaliadau yn daladwy ar ddyddiadau ar ôl i'r person ymgymryd â swydd addysgu fel athro neu athrawes gymwysedig.
(5) Yn achos unrhyw grant sy'n daladwy tra bydd person yn dilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi arian i sefydliad achrededig i'w dalu i'r person hwnnw ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
7 

(1) Yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y paragraff hwn yn gymhellion i annog cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i gyflogi personau sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig drwy gwblhau'r cyfnod angenrheidiol o wasanaeth fel athro neu athrawes raddedig yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999, ac i sicrhau hyfforddiant ar eu cyfer.
(2) Bydd grantiau o dan baragraff (1) yn daladwy mewn un swm neu mewn unrhyw randaliadau, ac ar unrhyw adegau, a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.
(3) Mae rheoliad 5 yn gymwys mewn perthynas â grantiau o dan baragraff (1) fel y mae'n gymwys mewn perthynas â grantiau o dan reoliad 3.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Medi 2000