
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 13 Medi 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn Rheoliad 17, ym mharagraff (2), yn lle “£29.48” rhowch “£30.39”.
(3) Yn Rheoliad 18,
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£29.48” rhowch “£30.39”;
(b) ym mharagraff (2),
(i) yn is-baragraff (a) yn lle “£26.24” rhowch “£27.65”; a
(ii) yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle “£52.49” rhowch “£55.31.”.
3 
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) 1999 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Rhif 2) 1999 wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Medi 2000