
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2000 a byddant yn dod i rym ar 7 Chwefror 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn
 ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) 1995
2 
Rhodder yn lle rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau (cymhwyso) y rheoliad canlynol–“
3 
These Regulations apply in relation to any levy of a National Park authority to be issued to, or anticipated by, a relevant billing authority in respect of financial years beginning on 1st April 2000 and 1st April 2001.”
3 
Yn rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau (gosod ardollau) hepgorer paragraffau (1) a (2)
4 
Yn rheoliad 6 o'r Prif Reoliadau (mwyafswm ardollau) yn lle paragraffau (5), (6) a (7) mewnosoder y paragraff canlynol“
(5) In this regulation –“the agreed proportion” and “the relevant proportion” shall be construed in accordance with regulation 5, “maximum amount” means the amount specified for each National Park authority in the following table —

National Park Authority Maximum Amount £
Brecon Beacons National Park 621,661
Pembrokeshire Coast National Park 677,779
Snowdonia National Park 878,558”
5 
Yn rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau (amnewid ardollau) yn lle paragraff (4) mewnosoder –“A new levy shall be issued in accordance with these Regulations.”
6 
Bydd darpariaethau'r Prif Reoliadau fel yr oeddent yn bodoli yn union cyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw ardoll gan awdurdod Parc Cenedlaethol a osodir ar awdurdod bilio perthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Chwefror 2000