
RHAN I
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000.
(2) Daw rheoliadau 12 a 17 i rym ar 1 Chwefror 2001, daw rheoliad 16 i rym ar 1 Rhagfyr 2000, a daw'r holl reoliadau eraill i rym ar 1 Medi 2000.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
 ystyr “athro neu athrawes cynllun carlam” (“fast track teacher”) yw athro neu athrawes ddosbarth y mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth neu asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol wedi eu hardystio felly;
 ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
 mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag a roddir i “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf 1988;
 ystyr “athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy” (“teacher who has passed the threshold”) yw athro neu athrawes y mae asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth wedi ardystio eu bod wedi croesi'r trothwy perfformiad a bennwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae pennaeth neu berson arall wedi eu hardystio felly o dan drefniadau sydd wedi'u cymeradwyo gan asesydd;
 ystyr “athro neu athrawes uwch-fedrau” (“advanced skills teacher”) yw athro neu athrawes y mae asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth wedi ardystio eu bod yn gymwys i'w penodi i swydd athro neu athrawes uwch-fedrau;
 ystyr “Cod Ymarfer” (“Code of Practice”) yw'r cod ymarfer yr awdurdodir ei gyhoeddi o dan reoliad 13;
 mae “cyflogydd” (“employer”) mewn perthynas ag athro neu athrawes yn cynnwys person sy'n rhoi gwaith i'r athro neu'r athrawes neu yn trefnu rhoi gwaith iddynt er mwyn iddynt ddarparu eu gwasanaeth fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir “darpar gyflogydd” (“prospective employer”), “cyflogi” (“employed”), a “cyflogaeth” (“employment”) yn unol â hynny;
 ystyr “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yw cyfnod ymsefydlu a fwrir yn unol â rheoliadau a wneir mewn perthynas â Chymru neu Loegr o dan adran 19 o Ddeddf 1998;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Diwygio Addysg 1988;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “y Gofrestr” (“the Register”) yw'r gofrestr o athrawon ac athrawesau y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei sefydlu a'i chadw yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1998 a'r Rheoliadau hyn, a dehonglir “cofrestru” (“registration”) yn unol â hynny;
 ystyr “person anghofrestredig” (“unregistered person”) yw person nad yw'n athro neu'n athrawes gofrestredig;
 mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
 mae i “sefydliad yn y sector addysg uwch” yr ystyr a roddir i “institution within the higher education sector” gan adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
 mae i “ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol” yr un ystyr ag a roddir i “school maintained by a local education authority” yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 mae i “ysgol annibynnol” yr un ystyr ag a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996);
 mae i “ysgol arbennig” yr un ystyr ag a roddir i “special school” yn adran 337(1) o Ddeddf Addysg 1996; ac
 ystyr “ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal” (“non-maintained special school”) yw ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig gymunedol nac yn ysgol arbennig sefydledig.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —
(a) rheoliad, Rhan neu Atodlen â rhif, yn gyfeiriad at y rheoliad, y Rhan neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(b) paragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y gwelir y cyfeiriad ynddynt; ac
(c) is-baragraff â rhif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.
RHAN II
3 
At ddibenion adran 3(3)(d) o Ddeddf 1998, nid yw person yn gymwys i'w gofrestru os yw'n anghymwys i'w gofrestru fel athro neu athrawes, neu wedi'i anghymhwyso rhag bod yn athro neu'n athrawes mewn unrhyw ysgol, yn rhinwedd —
(a) adran 11 o Ddeddf y Cyngor Addysgu (Yr Alban) 1965;
(b) rheoliad 9 o Reoliadau Athrawon (Cymhwyster) (Gogledd Iwerddon) 1997; neu
(c) rheoliadau a wneir o dan erthygl 36 o Orchymyn Addysg (Gogledd Iwerddon) 1998).
4 

(1) Rhaid i gais am gofrestru gynnwys —
(a) y rhif cyfeirnod swyddogol, os oes un, a ddyrannwyd i'r athro neu'r athrawes;
(b) enw llawn y ceisydd;
(c) dyddiad geni'r ceisydd;
(c) cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y ceisydd; a
(d) y dyddiad yr enillodd y ceisydd gymhwyster athro neu athrawes.
(2) Caiff y Cyngor wneud darpariaeth bellach ynghylch —
(a) y ffurf a'r dull ar gyfer gwneud ceisiadau am gofrestru; a
(b) y dystiolaeth ddogfennol a'r dystiolaeth arall sydd i gyd-fynd â cheisiadau am gofrestru.
5 

(1) Pan sefydlir y Gofrestr, caiff y Cyngor gofrestru personau sy'n gymwys i'w cofrestru nad ydynt wedi gwneud cais am gofrestru.
(2) Rhaid i'r Cyngor anfon cadarnhad ysgrifenedig eu bod wedi'u cofrestru at bob person a gofrestrir o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r Cyngor ddarparu, yn ddi-dâl, gopi o'r wybodaeth a gofnodir yn y Gofrestr wrth ochr enw person a gofrestrir o dan baragraff (1), os bydd y person hwnnw'n gofyn amdano.
6 

(1) Cofnodir yn y Gofrestr, wrth ochr enwau'r rhai a gofrestrir ynddi, y materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch materion ychwanegol i'w cofnodi yn y Gofrestr.
7 
Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch rhannu'r Gofrestr yn rhannau ar wahân.
8 
Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch adfer a newid cofnodion yn y Gofrestr, a throsglwyddo cofnodion rhwng rhannau gwahanol o'r Gofrestr.
9 
Caiff y Cyngor wneud darpariaeth —
(a) ar gyfer codi ffioedd a bennir gan y Cyngor gyda chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas —
(i) â cheisiadau am gofrestru neu am adfer cofnodion yn y Gofrestr, a
(ii) â chadw cofnodion yn y Gofrestr;
(b) ar gyfer eithriadau lle na chaiff ffioedd eu codi; ac
(c) i'r Cyngor wrthod cais am gofrestru nes bod y ffi briodol wedi'i thalu.
10 
— Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch tynnu cofnodion oddi ar y Gofrestr pan yw'r personau o dan sylw wedi peidio â bod yn gymwys i'w cofrestru, wedi methu â thalu ffi gofrestru, neu fel arall.
11 
Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch rhoi tystysgrifau cofrestru i athrawon ac athrawesau cofrestredig, ac ynghylch ffurf y tystysgrifau hynny.
12 

(1) Pan ddaw cais i law oddi wrth aelod o'r cyhoedd, caiff y Cyngor roi gwybod i'r person hwnnw a yw person yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu beidio.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys y manylion hynny y bydd y Cyngor yn eu pennu.
(3) Caiff y Cyngor drefnu bod enwau athrawon ac athrawesau sydd ar y Gofrestr ar gael yn y modd y bydd y Cyngor yn ei bennu.
RHAN III
13 
Caiff y Cyngor gyhoeddi Cod Ymarfer, a'i ddiwygio o dro i dro, i nodi safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth athrawon ac athrawesau cofrestredig.
14 

(1) Rhaid i'r Cyngor drefnu bod copïau o'r Cod Ymarfer ar gael yn ddi-dâl i bob athro ac athrawes gofrestredig —
(a) pan gaiff y Cod Ymarfer ei gyhoeddi gyntaf neu pan gaiff athro neu athrawes eu cofrestru am y tro cyntaf (os nad oeddent yn athro neu'n athrawes gofrestredig pan gyhoeddwyd y Cod Ymarfer gyntaf); a
(b) os bydd y Cyngor yn penderfynu felly, pan gaiff y Cod Ymarfer ei ddiwygio.
(2) Caiff y Cyngor drefnu bod copi o'r Cod Ymarfer ar gael ar unrhyw wefan a gynhelir gan y Cyngor ar y rhyngrwyd, ac os ydynt yn gwneud felly, mae'n rhaid iddo fod yn ddi-dâl.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2), pan ddaw cais i law rhaid i'r Cyngor ddarparu copïau o'r Cod Ymarfer pan delir y tâl rhesymol hwnnw a bennir gan y Cyngor.
RHAN IV
15 

(1) Pan ddaw cais i law oddi wrth athro neu athrawes gofrestredig, rhaid i'r Cyngor roi copi iddynt o'r wybodaeth sydd wedi'i chofnodi ar y Gofrestr wrth ochr eu henw.
(2) Pan ddaw cais i law oddi wrth berson y mae gan y Cyngor gofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998, rhaid i'r Cyngor roi copi o'r cofnodion hynny sydd ganddynt i'r person.
16 

(1) Os daw cais i law oddi wrth gyflogydd neu ddarpar gyflogydd —
(a) athro neu athrawes gofrestredig; neu
(b) person anghofrestredig y mae gan y Cyngor gofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,
 sydd yn gyflogydd neu'n ddarpar gyflogydd y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r Cyngor roi i'r cyflogydd neu'r darpar gyflogydd hwnnw yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes neu'r person anghofrestredig o dan sylw.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys i gyflogydd neu ddarpar gyflogydd sydd —
(a) yn awdurdod addysg lleol;
(b) yn gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol;
(c) yn gorff llywodraethu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal;
(ch) yn berchennog ysgol annibynnol;
(d) yn sefydliad yn y sector addysg uwch;
(dd) yn sefydliad yn y sector addysg bellach;
(e) yn asiantaeth athrawon cyflenwi; neu
(f) yn asiantaeth Addysg Plant yn y Gwasanaethau.
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys hefyd i awdurdod addysg lleol os corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw yw'r cyflogydd neu'r darpar gyflogydd (p'un a yw'r corff llywodraethu wedi gwneud cais o dan baragraff (1) neu beidio).
(4) Rhaid i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo beidio â datgelu gwybodaeth a roddir o dan y rheoliad hwn i neb heblaw'r athro neu'r athrawes y mae'r wybodaeth yn cyfeirio atynt.
(5) Nid yw paragraff (4) yn atal awdurdod addysg lleol rhag datgelu gwybodaeth a roddir iddynt o dan y rheoliad hwn i gorff llywodraethu'r ysgol lle y cyflogir neu y bwriedir cyflogi'r person o dan sylw.
(6) Rhoddir unrhyw wybodaeth o dan baragraff (1) ar yr amod na ellir defnyddio'r wybodaeth ond at ddibenion canfod a yw'r athro neu'r athrawes neu'r person anghofrestredig yn addas i'w cyflogi neu i barhau mewn cyflogaeth (yn ôl fel y digwydd).
17 

(1) Pan ddaw cais i law, rhaid i'r Cyngor roi'r wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 mewn perthynas ag —
(a) athro neu athrawes gofrestredig; neu
(b) person anghofrestredig y mae gan y Cyngor gofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,
 i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
(2) Pan roddir gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid gosod amod yn gofyn i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban beidio â datgelu'r wybodaeth honno i neb heblaw'r athro neu'r athrawes y mae'r wybodaeth yn cyfeirio atynt.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Gorffennaf 2000
ATODLEN 1
Rheoliad 6
1 
Y rhif cyfeirnod swyddogol, os oes un, a ddyrannwyd i'r athro neu'r athrawes.
2 
Ai athro ynteu athrawes ydyw.
3 
Dyddiad geni'r athro neu'r athrawes.
4 
Os yw'n hysbys, unrhyw enw y câi'r athro neu'r athrawes eu hadnabod wrtho o'r blaen.
5 
Os yw'n hysbys, i ba grŵp hil y mae'r athro neu'r athrawes yn perthyn.
6 
Os yw'n hysbys, a yw'r athro neu'r athrawes yn anabl.
7 
Cyfeiriad cartref yr athro neu'r athrawes, neu gyfeiriad cyswllt arall, ac os ydynt yn hysbys rhif ffôn, rhif cyflunydd a chyfeiriad post electronig.
8 
Rhif yswiriant gwladol yr athro neu'r athrawes.
9 

(1) Os yw'n hysbys, pan yw'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi fel athro neu athrawes —
(a) enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyflunydd a chyfeiriad post electronig yr ysgol neu'r sefydliad lle mae'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi i addysgu;
(b) manylion y math o ysgol neu sefydliad lle mae'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi i addysgu ac enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu'r sefydliad os yw hynny'n gymwys;
(c) ai cyflogaeth amser-llawn neu ran-amser ydyw;
(ch) y swydd sydd gan yr athro neu'r athrawes; a
(d) y dyddiad yr ymgymerodd yr athro neu'r athrawes â'u swydd bresennol.
(2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi fel athro neu athrawes ar hyn o bryd, y dyddiad diwethaf, os yw'n hysbys pryd yr oeddent yn cael eu cyflogi felly, a'r manylion ym mharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1) mewn perthynas â'u swydd addysgu ddiweddaraf.
10 
Os yw'n hysbys, a yw'r athro neu'r athrawes wedi ymddeol, yn cymryd saib gyrfa, yn ddi-waith neu yn cael eu cyflogi heblaw fel athro neu athrawes.
11 
Os yw'n hysbys, pan fo gan yr athro neu'r athrawes radd neu gymhwyster cyfatebol —
(a) y dyddiad y'i dyfarnwyd;
(b) y teitl;
(c) y sefydliad a'i dyfarnodd;
(ch) dosbarth y radd neu'r cymhwyster; a
(d) y pwnc.
12 
Y dyddiad yr enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes.
13 
Os yw'n hysbys, y dyddiad yr ymgymerodd yr athro neu'r athrawes â'u swydd gyntaf fel athro neu athrawes gymwysedig.
14 
Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus —
(a) enw'r sefydliad a ddarparodd y cwrs;
(b) teitl neu ddisgrifiad y cwrs;
(c) y pwnc neu'r pynciau a astudiwyd gan yr athro neu'r athrawes;
(ch) oedrannau'r disgyblion y bwriadwyd y cwrs i baratoi'r athro neu'r athrawes i'w haddysgu; a
(d) dyddiad dechrau a chwblhau'r cwrs.
15 
Pan enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes heblaw drwy gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus —
(a) y math o raglen hyfforddi a gwblhawyd;
(b) enw'r ysgol neu'r sefydliad lle gwnaed yr ymarfer addysgu; ac
(c) dyddiad cwblhau'r rhaglen hyfforddi.
16 
Os ydynt yn hysbys —
(a) manylion unrhyw gymhwyster sydd gan yr athro neu'r athrawes ar gyfer addysgu'r rhai y mae ganddynt nam ar eu golwg neu eu clyw, fel y cyfeirir ato yn rheoliad 11, 12 neu 13 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999;
(b) os dyfarnwyd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth i'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny a dyddiad y dyfarniad;
(c) manylion unrhyw gymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sydd gan yr athro neu'r athrawes;
(ch) os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, nodyn i ddweud hynny; a
(d) os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu Cymraeg ail iaith, nodyn i ddweud hynny.
17 
Os yw'n hysbys —
(a) os yw'r athro neu'r athrawes yn athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt groesi'r trothwy ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth groesi'r trothwy;
(b) os athro neu athrawes uwch-fedrau yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y'u hardystiwyd yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth gael eu hardystio yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau;
(c) os athro neu athrawes cynllun carlam yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt ymuno â'r cynllun carlam, a'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth ymuno â'r cynllun carlam.
18 

(1) Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr —
(a) enw'r corff priodol (o fewn ystyr “the appropriate body” yn adran 19 o Ddeddf 1998);
(b) y dyddiad y dechreuodd yr athro neu'r athrawes y cyfnod ymsefydlu;
(c) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau;
(ch) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer yr athro neu'r athrawes, a chyfnod yr estyniad; a
(d) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan yr athro neu'r athrawes, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.
(2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu —
(a) os yw'r athro neu'r athrawes yn esempt rhag y gofyniad i fwrw cyfnod ymsefydlu, y rheswm dros yr esemptiad; neu
(b) os nad oedd yn ofynnol i'r athro neu'r athrawes fwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno.
19 
Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi methu cyfnod prawf, ac a yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r athro neu'r athrawes gael eu cyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988.
20 
Y categori y caiff yr athro neu'r athrawes bleidleisio ynddo i ethol aelodau i'r Cyngor.
21 
Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd adran 218(6) o Ddeddf 1988.
22 
Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad achos disgyblu a ddygwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
23 
Nodyn i ddweud a yw'r athro neu'r athrawes wedi talu unrhyw ffi gofrestru neu beidio.
24 
Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi ymddeol o dan reoliad E4(4) o Reoliadau Pensiwn Athrawon 1997 (ymddeoliad afiechyd).
ATODLEN 2
Rheoliadau 16 a 17
1 
A yw'r athro neu'r athrawes wedi'u cofrestru neu beidio.
2 
A yw'r athro neu'r athrawes yn athro neu'n athrawes gymwysedig neu beidio.
3 
Y dyddiad yr enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes.
4 
Os yw'n hysbys, pan fo gan yr athro neu'r athrawes radd neu gymhwyster cyfatebol —
(a) y dyddiad y'i dyfarnwyd;
(b) y teitl;
(c) y sefydliad a'i dyfarnodd;
(ch) dosbarth y radd neu'r cymhwyster; a
(d) y pwnc.
5 
Os yw'n hysbys, y dyddiad yr ymgymerodd yr athro neu'r athrawes â'i swydd gyntaf fel athro neu athrawes gymwysedig.
6 
Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus —
(a) enw'r sefydliad a ddarparodd y cwrs;
(b) teitl neu ddisgrifiad y cwrs;
(c) y pwnc neu'r pynciau a astudiwyd gan yr athro neu'r athrawes;
(ch) oedrannau'r disgyblion y bwriadwyd y cwrs i baratoi'r athro neu'r athrawes i'w haddysgu; a
(d) dyddiad dechrau a chwblhau'r cwrs.
7 
Pan enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes heblaw drwy gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus —
(a) y math o raglen hyfforddi a gwblhawyd;
(b) enw'r ysgol neu'r sefydliad lle gwnaed yr ymarfer addysgu; ac
(c) dyddiad cwblhau'r rhaglen hyfforddi.
8 
Os ydynt yn hysbys,
(a) manylion unrhyw gymhwyster sydd gan yr athro neu'r athrawes ar gyfer addysgu'r rhai y mae ganddynt nam ar eu golwg neu eu clyw, fel y cyfeirir ato yn rheoliad 11, 12 neu 13 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999;
(b) os dyfarnwyd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth i'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny a dyddiad y dyfarniad;
(c) manylion unrhyw gymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sydd gan yr athro neu'r athrawes;
(ch) os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, nodyn i ddweud hynny; a
(d) os yw'r athro neu'r athraws yn gallu addysgu Cymraeg ail iaith, nodyn i ddweud hynny.
9 
Os yw'n hysbys —
(a) os yw'r athro neu'r athrawes yn athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt groesi'r trothwy ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth groesi'r trothwy;
(b) os athro neu athrawes uwch-fedrau yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y'u hardystiwyd yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth gael eu hardystio yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau;
(c) os athro neu athrawes cynllun carlam yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt ymuno â'r cynllun carlam, a'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth ymuno â'r cynllun carlam.
10 

(1) Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr, —
(a) enw'r corff priodol (o fewn ystyr “the appropriate body” yn adran 19 o Ddeddf 1998);
(b) y dyddiad y dechreuodd yr athro neu'r athrawes y cyfnod ymsefydlu;
(c) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau;
(ch) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus;
(d) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer yr athro neu'r athrawes, a chyfnod yr estyniad; a
(dd) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan yr athro neu'r athrawes, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.
(2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu —
(a) os yw'r athro neu'r athrawes yn esempt rhag y gofyniad i fwrw cyfnod ymsefydlu, y rheswm dros yr esemptiad; neu
(b) os nad oedd yn ofynnol i'r athro neu'r athrawes fwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno.
11 
Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi methu cyfnod prawf, ac a yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r athro neu'r athrawes gael eu cyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988.
12 
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd adran 218(6) o Ddeddf 1988.
13 
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i achos disgyblu a ddygwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
14 
Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi ymddeol o dan reoliad E4(4) o Reoliadau Pensiwn Athrawon 1997 (ymddeoliad afiechyd).