
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig .
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn,
 ystyr “amcan ansawdd aer” (“air quality objective”) yw'r ystyr a roddir gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn,
 ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn,
 ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995,
 ystyr “sylwedd” (“substance”) yw sylwedd a restrir yng ngholofn chwith y Tabl;
 acystyr “y Tabl” (“the Table”) yw'r Tabl yn Rhan I o'r Atodlen.
(2) Bydd darpariaethau Rhan II o'r Atodlen yn effeithiol at ddibenion dehongli'r Atodlen.
3 
Y cyfnod sy'n dechrau â'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n dod i ben ar y dyddiad a ragnodir yng ngholofn dde y Tabl gyferbyn â'r amcan ansawdd aer perthnasol yw'r cyfnod perthnasol a ragnodir at ddibenion Rhan IV o Ddeddf 1995 mewn perthynas ag amcan ansawdd aer.
4 

(1) Mae yn amcan ansawdd aer ar gyfer pob sylwedd fod lefel y sylwedd hwnnw yn yr aer wedi'i gyfyngu i'r lefel a ragnodir yng ngholofn chwith y Tabl ar gyfer y sylwedd hwnnw erbyn dyddiad nad yw'n ddiweddarach na'r dyddiad a ragnodir yng ngholofn dde'r Tabl ar gyfer y sylwedd hwnnw, neu, os rhagnodir mwy nag un amcan ansawdd aer ar gyfer sylwedd, y dyddiad a ragnodir yn y golofn dde gyferbyn â'r amcan ansawdd aer perthnasol ar gyfer y sylwedd hwnnw.
(2) Rhaid penderfynu a yw amcan ansawdd aer a ragnodir yn unol â pharagraff (1) wedi'i gyflawni neu'n debygol o gael ei gyflawni drwy gyfeirio at ansawdd yr aer mewn lleoliadau
(a) sydd y tu allan i adeiladau neu strwythurau naturiol neu artiffisial eraill uwchlaw neu islaw'r ddaear; a
(b) lle mae aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn rheolaidd.
5 
Mae Rheoliadau Ansawdd Aer 1997 wedi'u diddymu drwy hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymruo dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Y Llywydd
19 Gorffennaf 2000
YR ATODLEN
Rheoliadau 2, 3 a 4
RHAN I

TABL
Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer Y dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid cyflawni'r amcan
Bensen: 16.25 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol cyfredol 31 Rhagfyr 2003
1, 3 Biwtadïen: 2.25 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol cyfredol 31 Rhagfyr 2003
Carbon monocsid: 11.6 miligram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 8 awr cyfredol 31 Rhagfyr 2003
Nitrogen deuocsid: 200 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr yn ôl yr awr, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 18 gwaith y flwyddyn 31 Rhagfyr 2005
Nitrogen deuocsid: 40 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol 31 Rhagfyr 2005
Plwm: 0.5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol 31 Rhagfyr 2004
Plwm: 0.25 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol 31 Rhagfyr 2008
PM10: 50 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 24 awr, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 35 gwaith y flwyddyn 31 Rhagfyr 2004
PM10 40 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol 31 Rhagfyr 2004
Sylffwr deuocsid: 125 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 24 awr na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 3 gwaith y flwyddyn 31 Rhagfyr 2004
Sylffwr deuocsid: 350 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr yn ôl yr awr, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 24 gwaith y flwyddyn 31 Rhagfyr 2004
Sylffwr deuocsid: 266 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 15 munud, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 35 gwaith y flwyddyn 31 Rhagfyr 2005
RHAN II
At ddibenion yr Atodlen hon:
1 

(1) Cymedr blynyddol cyfredol yw cymedr a gyfrifir yn ôl yr awr, gan ildio un cymedr blynyddol cyfredol yr awr. Y cymedr blynyddol cyfredol ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol yw cymedr y lefelau yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno a'r 8759 o oriau blaenorol.
(2) Er mwyn cyfrifo cymedr blynyddol cyfredol, y lefel yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yw naill ai:
(a) y lefel lle cofnodir bod y sylwedd hwnnw yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr awr ar sail sampl barhaus o aer a gymerir yn ystod yr awr honno am 30 munud o leiaf; neu
(b) cymedr y lefelau a gofnodir yn y lleoliad hwnnw ar sail 2 neu ragor o samplau o aer a gymerir yn ystod yr awr am gyfnod agregedig o 30 munud o leiaf.
2 
Cymedr a gyfrifir ar sail oriau ac sy'n ildio un cymedr 8 awr cyfredol yr awr yw cymedr 8 awr cyfredol. Cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol a'r 7 awr flaenorol yw'r cymedr 8 awr cyfredol ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno.
3 

(1) Cymedr a gyfrifir ar sail flynyddol ac sy'n ildio un cymedr blynyddol y flwyddyn galendr yw cymedr blynyddol. Y cymedr blynyddol ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol mewn blwyddyn galendr benodol yw:
(a) o ran plwm, cymedr y lefelau dyddiol ar gyfer y flwyddyn honno;
(b) o ran nitrogen deuocsid, cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y flwyddyn honno; ac
(c) o ran PM10, cymedr y cymedrau 24 awr ar gyfer y flwyddyn honno;
(2) At ddibenion cyfrifo'r cymedr blynyddol ar gyfer plwm, y lefel ddyddiol ar gyfer plwm mewn lleoliad penodol ar ddiwrnod penodol yw'r lefel lle cofnodir bod plwm yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr wythnos y digwydd y diwrnod ar sail sampl barhaus o aer a gymerir drwy gydol yr wythnos honno (gan briodoli'r un lefel ddyddiol felly i bob diwrnod o'r wythnos honno).
(3) Ystyr “PM10” yw mater gronynnol sy'n llwyddo i fynd drwy fewnfa dethol maint gyda therfyn effeithlonrwydd o 50% pan fydd y diamedr aerodynamig yn 10μm.
(4) At ddibenion is-baragraff (2) ystyr “wythnos” yw wythnos gyflawn sy'n dechrau ar ddydd Llun, ac eithrio ei bod hefyd yn cynnwys unrhyw gyfnod o lai na saith diwrnod o ddechrau'r flwyddyn galendr hyd at y dydd Llun cyntaf yn y flwyddyn honno neu o ddechrau'r dydd Llun olaf yn y flwyddyn galendr hyd at ddiwedd y flwyddyn honno.
4 
Cymedr a gyfrifir bob awr yw cymedr yn ôl yr awr. Cymedr y lefelau a gofnodir, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad, ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yn ystod awr benodol yw'r cymedr yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr awr honno.
5 
Cymedr a gyfrifir bob 24 awr yw cymedr 24-awr. Y lefel lle cofnodir bod sylwedd yn bresennol yn yr aer mewn lleoliad penodol ar sail sampl barhaus o aer a gymerir drwy gydol y cyfnod o 24 awr yw'r cymedr 24-awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am y cyfnod hwnnw.
6 
Cymedr a gyfrifir bob 15 munud yw cymedr 15-munud. Cymedr y lefelau a gofnodir, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad, ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yn ystod cyfnod o 15 munud yw'r cymedr 15-munud ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am y 15 munud hynny.
7 
Mae'r cyfeiriad at nifer o ficrogramau neu filigramau y metr ciwbig o sylwedd yn gyfeiriad at y nifer o ficrogramau neu filigramau y metr ciwbig o'r sylwedd hwnnw o'i fesur gyda'r cyfaint wedi'i safoni ar dymheredd o 293 K ac ar bwysedd o 101.3 kPa.