
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Medi 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2000 neu wedyn.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,300” ym mhob man lle y'i gwelir, rhoddir “£1,400”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle “£10,670” rhoddir “£10,901”.
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhoddir y tabl canlynol —“

(1) (2) (3) (4)
Part of relevant income to which specified percentage applies Only assisted pupil (%) Each of two assisted pupils (%) Each of three assisted pupils (%)
That part which exceeds £10,735 but does not exceed £11,674 9 6.75 5.25
That part (if any) which exceeds £11,674 but does not exceed £12,626 12 9 7
That part (if any) which exceeds £12,626 but does not exceed £14,516 15 11.25 8.75
That part (if any) which exceeds £14,516 but does not exceed £17,430 21 15.75 12.25
That part (if any) which exceeds £17,430 but does not exceed £21,228 24 18 14
That part (if any) which exceeds £21,228 33 24.75 19.25”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. 19 Gorffennaf 2000
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
