
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2000.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997 (personau y gellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt), hepgorir is baragraff (a) o baragraff (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Gorffennaf 2000