
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “bwyd meddygol” (“medical food”) yw bwyd sy'n dod o fewn dosbarth bwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig y gosodir gofynion cyfansoddi a labelu ar eu cyfer yn y Gyfarwyddeb; ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig; a
 mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu ar gyfer gwerthu a chynnig, rhoi ar werth neu hysbysebu (ac eithrio drwy gyfrwng label neu bapur lapio).
3 

(1) Ni chaiff neb werthu bwyd meddygol oni bai —
(a) fod ei fformiwleiddiad a'i gyfansoddiad, a'r cyfarwyddiadau defnyddio cyfryw ag y byddant yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag Erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb fel y'i darllennir ynghyd â'r Atodlen iddi;
(b) fod yr enw y mae'n cael ei werthu o dano yn cydymffurfio ag Erthygl 4(1) o'r Gyfarwyddeb; ac
(c) fod ei labelu yn unol ag Erthygl 4(2) i (5) o'r Gyfarwyddeb.
(2) Nid yw person sydd, mewn perthynas â bwyd meddygol o fath arbennig —
(a) yn hysbysydd dynodedig, sef gwneuthurwr neu fewnforiwr o dan Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb, ond
(b) sydd wedi methu cydymffurfio â'r rheidrwydd i hysbysu'r awdurdod cymwys y cyfeirir ato yn yr Erthygl honno,
yn cael gwerthu bwyd meddygol o'r math hwnnw.
(3) At ddibenion paragraff (2) uchod yr awdurdod cymwys yw —
(a) mewn perthynas â bwyd meddygol a wneir yng Nghymru, neu a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, yr Asiantaeth Safonau Bwyd;
(b) mewn perthynas â bwyd meddygol a wneir mewn tiriogaeth arall o fewn y Deyrnas Unedig (neu a fewnforir o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig i diriogaeth arall o fewn y Deyrnas Unedig), yr awdurdod a ddynodir i'r pwrpas hwnnw yn y diriogaeth honno fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb mewn perthynas â'r bwyd.
4 
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
5 
Os bydd i unrhyw berson —
(a) dorri rheoliad 3(1) uchod, neu
(b) heb esgus rhesymol dorri rheoliad 3(2) uchod,bydd ef neu hi yn euog o drosedd ac ar gollfarn ynadol yn agored i gosb nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
6 
— Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â throsedd o dan reoliad 3(1) uchod bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi bod y bwyd yr honnir i'r drosedd gael ei chyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad (nad yw'n aelod-Wladwriaeth) ac iddi ddeddfwriaeth gyfwedd â'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno.
7 
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn:
(a) adran 2 (ystyr estynedig “gwerthu” etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiau bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(c) adran 20 (Troseddau sy'n deillio o fai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad ar sail diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d) adran 22 (amddiffyniad ar sail cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);
(f) adran 35(1) i (3) (cosbi troseddau) i'r graddau ei fod yn ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) a (2) fel y cymhwysir hwy gan baragraff (e) uchod;
(ff) adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol); a
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd Cynulliad, Cenedlaethol Cymru
14 Gorffennaf 2000