
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000, deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2000 a byddant yn gymwys i Gymru.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995.
2 
– Diwygir y prif Reoliadau, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, drwy ychwanegu, ar ddiwedd y diffiniad o “Directive 95/45/EC” yn rheoliad 2(1), y geiriau“, as amended by Directive 1999/75/EC”).
3 

(1) Cymerir bod cyfeiriadau at y prif Reoliadau yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (2) isod, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys i Gymru, yn gyfeiriadau at y prif Reoliadau fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.
(2) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (1) uchod yn cyfeirio atynt —
(a) y diffiniad o “permitted colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981;
(b) y diffiniad o “additive” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984;
(c) y diffiniad o “colour” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992 ;
(ch) y diffiniad o “colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995); a
(d) y diffiniad o “the additives Regulations” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Gorffennaf 2000