
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2000
2 
Diddymir Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Lloegr a Chymru) 1986 ).
3 

(1) Yn y rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir, neu gyngor bwrdeistref sirol;
 ystyr “bathodyn person anabl” (“disabled person’s badge”) yw bathodyn -
(a) a roddwyd, neu sydd yn cael effaith fel petai wedi ei roi, i berson anabl neu sefydliad o dan y Rheoliadau Bathodynnau neu o dan reoliadau sy'n effeithiol yn yr Alban neu Loegr o dan gymal 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970; a
(b) sydd yn parhau mewn grym;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984;
 ystyr “disg barcio” (“parking disc”) yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 8(5);
 ystyr “lôn beiciau” (“cycle lane”) yw'r ystyr a roddir i “cycle lane” yn rheoliad 4 o Reoliadau Arwyddion Traffig 1994 ;
 ystyr “lôn bysiau” (“bus lane”) yw'r ystyr a roddir i “bus lane” yn rheoliad 23(3) o Reoliadau Arwyddion Traffig 1994;
 ystyr “oriau gweithredu” (“hours of operation”) mewn perthynas a lôn beiciau neu lôn bysiau yw'r cyfnodau pan fydd y cyfyngiadau sydd yn ei gwneud yn lôn beiciau neu'n lôn bysiau yn gymwys;
 ystyr “y Rheoliadau Bathodynnau” (“The Badges Regulations”) yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) mae cyfeiriad at orchymyn sy'n cynnwys darpariaeth o fath penodol yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn sy'n cymhwyso darpariaeth o'r math hwnnw mewn gorchymyn presennol; a
(b) mae cyfeiriad at orchymyn a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf 1984 yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn sy'n cael effaith fel petai wedi ei wneud o dan y Ddeddf honno, ac at orchymyn sy'n amrywio neu'n diddymu gorchymyn sy'n cael effaith fel petai wedi ei wneud o dan y Ddeddf honno.
4 

(1) Mae cerbyd yn arddangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol os yw'n cael ei arddangos yn y modd a ragnodir gan reoliad 12 o'r Rheoliadau Bathodynnau.
(2) Mae cerbyd yn arddangos disg barcio yn y safle perthnasol—
(a)  os yw'r ddisg yn cael ei harddangos ar ddangosfwrdd neu banel deialau y cerbyd; neu
(b) os yw'r ddisg yn cael ei harddangos mewn safle amlwg ar y cerbyd os nad oes dangosfwrdd neu banel deialau gan y cerbyd,
fel bod y cyfnod o chwarter awr pan ddechreuodd y cyfnod aros yn eglur ddarllenadwy o'r tu allan i'r cerbyd pan fydd y cyfnod wedi ei farcio ar y ddisg.
5 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw orchymyn ynglyn â ffordd sydd wedi'i wneud gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru o dan adrannau 1, 9, 35, 45, neu 46 o Ddeddf 1984.
6 

(1) Bydd darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn yn effeithiol i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys, mewn gorchmynion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, esemptiadau ar gyfer cerbyd sy'n arddangos bathodyn person anabl.
(2) Ceir cyfyngu unrhyw esemptiad o ddarpariaeth (y mae'r Rheoliadau hyn yn gorfodi ei chynnwys) mewn gorchymyn i gerbydau o'r un dosbarth â'r rhai y mae'r ddarpariaeth yn gymwys iddynt.
7 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i orchymyn sydd wedi'i wneud o dan adran 1, 9, 35, 45 neu 46 o Ddeddf 1984 —
(a) os yw'r gorchymyn yn cynnwys darpariaeth sy'n gwahardd cerbydau neu unrhyw ddosbarth ar gerbydau rhag aros ar ffordd, naill ai—
(i) yn hwy na chyfnod penodol; neu
(ii) pan fydd llai na chyfnod penodol wedi mynd heibio ers cyfnod aros blaenorol gan yr un cerbyd ar y ffordd honno, a
(b) os nad yw'r gwaharddiad yn gymwys i bob cerbyd heblaw cerbydau personau anabl.
(2) Rhaid i orchymyn y bydd y rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys esemptiad o'r gwaharddiad er budd cerbyd sy'n dangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol.
8 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i orchymyn sydd wedi'i wneud o dan adrannau 1, 9, 35, 45 neu 46 o Ddeddf 1984 sy'n cynnwys darpariaeth —
(a) sydd yn gwahardd (heblaw er mwyn llwytho neu ddadlwytho) unrhyw gerbydau neu unrhyw ddosbarth ar gerbydau, rhag aros ar ffordd ar bob adeg o'r dydd neu yn ystod un neu fwy o gyfnodau penodol o'r dydd;
(b) nad yw'n gymwys i lôn bysiau neu lôn beiciau yn ystod yr oriau gweithredu; a
(c) nad yw'n ddarpariaeth o'r math y cyfeirir ati yn rheoliad 7(1).
(2) Rhaid i orchymyn y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys esemptiad rhag y gwaharddiad yn unol â pha un bynnag o baragraffau (3) neu (4) sy'n briodol ar gyfer unrhyw gerbyd sy'n arddangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol.
(3) Pan na fydd cyfnod y gwaharddiad yn fwy na thair awr, rhaid i'r esemptiad bara am y cyfan o'r cyfnod hwnnw.
(4) Pan fydd cyfnod y gwaharddiad yn fwy na thair awr bydd yr esemptiad yn para am gyfnod o dair awr, yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:—
(a) na fydd y cyfnod aros a esemptir yn cychwyn lai nag un awr wedi cyfnod aros blaenorol a esemptiwyd ar gyfer yr un cerbyd ar yr un ffordd ar yr un diwrnod;
(b) yr arddangosir disg barcio wedi ei marcio i ddangos y cyfnod o chwarter awr pan gychwynnodd y cyfnod aros a esemptir yn y safle perthnasol ar y cerbyd.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “disg barcio” yw dyfais sydd —
(a) yn 125 milimetr sgwâr ac o liw glas os yw wedi ei roi ar y dydd y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu wedi hynny, neu o liw oren os yw wedi ei roi cyn hynny;
(b) wedi ei roi gan awdurdod lleol a heb beidio â bod yn ddilys; ac
(c) yn gallu dangos y cyfnod o chwarter awr pan gychwynnodd cyfnod aros.
9 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i orchymyn sydd wedi'i wneud o dan adran 45 neu 46 o Deddf 1984 sy'n rhagnodi—
(a) tâl i'w dalu ar gyfer unrhyw gerbyd neu gerbyd o unrhyw ddosbarth sydd wedi'i adael mewn lle parcio a ddynodir gan y gorchymyn;
(b) y cyfnod hwyaf y caiff cerbyd aros mewn lle parcio; neu
(c) cyfnod sy'n gorfod mynd heibio cyn y caiff cerbyd ddychwelyd i fan parcio wedi iddo gael ei symud oddi yno.
(2) Rhaid i orchymyn y bydd y rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys esemptiad rhag pob un o'r materion a bennir felly ar gyfer cerbyd sy'n arddangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
D Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Gorffennaf 2000