
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 20 Mai 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 5 isod.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli) –
(a) caiff y diffiniad o “dairy farm visit” a'r diffiniadau cysylltiedig o “sampling dairy farm visit” a “general dairy farm visit” eu hepgor;
(b) caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “registered production holding” —“
 “sampling dairy farm visit” means a visit to a registered production holding by an inspector for the purpose of taking samples of milk for analysis and examination to ascertain whether paragraph 2(b) of Part I of Schedule 4 (as read with regulation 9(1)(d) and (2)(a)) to the principal Regulations is being complied with;”.
4 
Yn rheoliad 3 (atebolrwydd i dalu taliadau) -
(a) Yn lle paragraff (1) rhoddir y paragraff canlynol.“
—
(1) For the purposes of carrying out any sampling, analysis and examination of raw cow’s milk which is drinking milk in pursuance of regulation 16(3) of the principal Regulations and subject to paragraph (2) below, there shall be due from a specified producer to the Agency in respect of any sampling dairy farm visit a charge of £63.
”;
(b) ym mharagraff (2) caiff is-baragraff (a) ei hepgor.
5 
Caiff yr Atodlen ei hepgor.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mai 2000