
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 1989.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, lle mae'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (1) (y mae ei chynnwys wedi'i nodi yng ngholofn (2)), rhoddir y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).
3 
Os, ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny–
(a) y bydd unrhyw offer a bennir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau yn cael ei gyflenwi yn unol ag archeb a roddir cyn y dyddiad hwnnw; neu
(b) y bydd unrhyw dystysgrif ragdalu yn cael ei rhoi o dan reoliad 8 o'r prif Reoliadau yn unol â chais o dan y rheoliad hwnnw a gafwyd cyn y dyddiad hwnnw,bydd y prif Reoliadau yn cael effaith mewn perthynas â chyflenwi'r offer neu, yn ôl y digwydd, rhoi'r dystysgrif fel pe na bai rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000
ATODLEN


(1) (2) (3) (4)
Y ddarpariaeth yn y prif Reoliadau Cynnwys Yr hen swm Y swm newydd
Rheoliad 3– Cyflenwi cyffuriau ac offer gan fferyllwyr–
paragraff (1)(a) y ffi am hosanau elastig–
 fesul eitem £5.90 £6.00
 fesul pâr £11.80 £12.00
paragraff (1)(c) y ffi am gyffuriau, ac am offer sydd
 heb eu pennu ym mharagraff (1)(a) £5.90 £6.00
paragraff (3) y ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn 9  £5.90 £6.00
Rheoliad 4– Cyflenwi cyffuriau ac offer gan feddygon–
paragraff (1)(a) y ffi am hosanau elastig–
 fesul eitem £5.90 £6.00
 fesul pâr £11.80 £12.00
paragraff (1)(b) y ffi am gyffuriau, ac am offer sydd £5.90 £6.00
 heb eu pennu ym mharagraff (1)(a) £5.90 £6.00
paragraff (3) y ffi am gyffuriau sy'n cael eu cyflenwi fesul tipyn £5.90 £6.00
Regulation 5– Cyflenwi cyffuriau ac offer i gleifion allanol gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau NHS–
paragraff (1)(a) y ffi am hosanau elastig–
 fesul eitem £5.90 £6.00
 fesul pâr £11.80 £12.00
paragraff (1)(c) y ffi am drywsanau £11.80 £12.00
paragraff (1)(d) y ffi am gyffuriau ac am offer sydd or (1)(c), or in Schedule 1 £5.90 £6.00
paragraff (3) y ffioedd am gyffuriau sy'n cael eu cyflenwi fesul tipyn £5.90 £6.00
Rheoliad 8(5)– tystysgrif ragdalu–
 4 mis £30.80 £31.40
 12 mis £84.60 £86.20
Atodlen 1– y ffioedd a godir am staesiau ffabrig a gwallt gosod–
 bronglwm llawfeddygol– £19.95 £20.30
 staes abdomenol neu staes y cefn £29.95 £30.50
 gwallt gosod modacrylig stoc £49.00 £49.90
 gwallt gosod rhannol ddynol £129.00 £131.50
 gwallt gosod dynol llawn wrth fesur £188.50 £192.00