
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 12 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 
£24,600 yw'r swm a ragnodir ar gyfer dibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
3 
Diddymir drwy hyn Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) 1990 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Ebril 2000