
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Technoleg) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “yr Awdurdod” yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (“the Authority”);
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“the National Assembly”); ystyr “y Dogfenau” yw'r dogfennau a gyhoeddir gan yr Awdurdod yn 2000 o dan y teitl “Dylunio a Thechnoleg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol” a “Gwybodaeth a Thechnoleg y Cwricwlwm Cenedlaethol”(“the Documents”).
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru'n unig.
2 
Diddymir Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Thechnoleg) (Cymru) 1998.
3 
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo bod y darpariaethau ynglŷn â thargedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a nodir yn y Dogfennau i gael effaith i'r diben o bennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio ynglŷn â thechnoleg.
4 
Nid yw'r enghreifftiau a italeiddiwyd yn y Dogfennau (er mwyn dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 10 Ebrill 2000
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN


 Adran 368(2)
Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser ynglŷn â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad.
 Adran 368(3)
Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi.
 Adran 368(5)
Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
 Adran 368(5)
Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad.
 Adran 368(6) a (7)
Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.
 Adran 368(6) a (7)
Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.
