
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2000 a daw i rym ar 12 Ebrill 2000.
2 
At ddibenion adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (cyllid yr Awdurdod) pennir y terfyn yn £2,000 miliwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Ebrill 2000