
1 
–
(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000.
(2) Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen fydd y swm a bennir gyferbyn â hi yng ngholofn 2 o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000Cydsyniwn,
Clive Betts
Bob Ainsworth
Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi
31 Mawrth 2000
Adran 2


Colofn 1 Colofn 2
YMDDIRIEDOLAETH GIG CYFLAF CYCHWYNNOL
Bro Morgannwg £94,389,000
Cymunedol Caerdydd a'r Cylch £36,319,000
Sir Gaerfyrddin £42,707,000
Conwy a Sir Ddinbych £71,828,000
Gofal Iechyd Gwent £176,884,000
Gogledd-ddwyrain Cymru £75,685,000
Gogledd-orllewin Cymru £82,799,000
Pontypridd a Rhondda £89,435,000
Abertawe £141,884,000
Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche £150,199,000
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru £19,901,000