
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Bydd Rheoliadau 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 o Reoliadau Dyrannu Tai (Lloegr) 2000 yn cael effaith yng Nghymru a bydd i'r mynegiadau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hynny yr un ystyr ag a roddir iddynt gan Reoliad 2 o'r Rheoliadau hynny.
3 
Diddymir y Rheoliadau canlynol mewn perthynas â Chymru –
(a) Rheoliadau Dyrannu Tai 1996;
(b) Rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) 1997;
(c) Rheoliad 2 o Reoliadau Dyrannu a Digartrefedd (Diwygio) (Rhif 2) 1997 .
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000