
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Bydd Rheoliadau 3, 4, 5 a 6 o Reoliadau Digartrefedd (Lloegr)  yn cael effaith yng Nghymru a bydd i'r mynegiadau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hynny yr un ystyr ag a roddir iddynt gan Reoliad 2 o'r Rheoliadau hynny.
3 
Diddymir y Rheoliadau canlynol mewn perthynas â Chymru –
(a) Rheoliadau Digartrefedd 1996 ;
(b) Rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) 1997;
(c) Rheoliad 3 o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) (Rhif 2) 1997 
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000