
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) (Cymru) 1996.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 4 (cyfyngiadau ar arfer swyddogaethau gan Awdurdodau Iechyd) ar ôl paragraff (3A) mewnosodir y paragraff canlynol—“
(3B) 
–
(1) In exercising the functions of the National Assembly for Wales under section 4 of the Act a Health Authority in Wales may enter into an NHS contract for the provision of high security psychiatric services with the following providers only—
(a) Ashworth Hospital Authority, Broadmoor Hospital Authority or Rampton Hospital Authority or
(b) an approved NHS trust
and may not arrange with any other person or body (including voluntary organisations) for that person or body to provide such services.
(2) For the purposes of paragraph (1)(b) “an approved NHS trust” means a trust approved under paragraph 10(2) and (3) of Schedule 2 to the 1990 Act_
(a) in Wales, by the National Assembly for Wales, and
(b) in England, by the Secretary of State.”.
(3) Bydd i'r diwygiadau i Atodlen 1 i'r prif Reoliadau a wnaed gan Reoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) 2000 effaith mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000