
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 
Ni fydd cynghorau cymuned sydd wedi cyllidebu ar gyfer gwariant refeniw gros nad yw'n fwy na £1,000,000 ar gyfer y naill neu'r llall o'r blynyddoedd ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 1998 neu 1 Ebrill 1999 yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau a osodir gan adrannau 3 i 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 mewn perthynas ag unrhyw un o'u swyddogaethau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mawrth 2000