
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;
 ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
–
(1) 1 Ebrill 2000 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym i'r graddau a bennir yno.
(2) Er bod paragraff (1) yn dod â diddymiad paragraffau 19 a 20 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 i rym, bydd y darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd cyn y diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
D. Elis Thomas
Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2000
ATODLEN
Erthygl 2(1)


 Adran 1 (Diddymu'r gyfraith ynglŷn â phractisiau sy'n dal cronfeydd)
 Adran 11 (Pwyllgorau Cynrychioliadol Lleol) (ac eithrio bod y cyfeiriadau yn is-adran (3) o adran 44 o Ddeddf 1977 a fewnosodwyd gan is-adran (4), at drefniadau a wnaed o dan adran 28C o Ddeddf 1977 yn cael eu dwyn i rym at ddibenion cynlluniau peilot yn unig o dan Ran I o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997)
 Adran 65(1) (Diwygio deddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymweud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod)
 Atodlen 4 —
 paragraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8, 24 a 27(a) isod)
 paragraff 8 (i'r graddau y mae'n ymwneud â phractisiau deiliad-cronfa)
 paragraff 24
 paragraff 27(a) (i'r graddau y mae'n golygu amnewid paragraffau (b) i (d) o adran 91(3) o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y mae'r paragraffau hynny'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)
 paragraff 71(a) a (b)
 paragraff 74 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 83(6) ac 84 isod)
 paragraff 83(6)
 paragraff 84
 paragraff 85(4)
 paragraff 90
