
RHAN I
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau)(Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “adolygiad gwasanaeth gwladol” (“national service review”) yw adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 20(1)(d) o'r Ddeddf;
 ystyr “adolygiad lleol” (“local review”) yw adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 20(1)(b) o'r Ddeddf neu reoliad 2(c) neu (d) o'r Rheoliadau Swyddogaethau;
 ystyr “ymchwiliad”(“investigation”) yw ymchwiliad gan y Comisiwn yn unol ag adran 20(1)(c) o'r Ddeddf neu reoliad 2(3) o'r Rheoliadau Swyddogaethau;
 ystyr “Awdurdod Iechyd perthnasol” (“relevant Health Authority”) yw'r Awdurdod Iechyd y mae darparydd gwasanaethau yn darparu gwasanaethau yn ei ardal;
 ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o 12 mis yn gorffen ar 31 Mawrth;
 ystyr “y Comisiwn Archwilio” (“the Audit Commission”) yw'r Comisiwn Archwilio dros Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr;
 ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn Gwella Iechyd a sefydlwyd gan adran 19 o'r Ddeddf;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “darparydd gwasanaethau” (“service provider”) yw person, heblaw corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd —
(a) yn darparu gwasanaethau Rhan II; neu
(b) yn darparu gwasanaethau yn unol â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997;
 ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
 ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd (Gofal Sylfaenol) 1997;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;
 mae i “gwasanaethau meddygol personol” (“personal medical services”) yr ystyr a roddir i “personal medical services” yn adran 1(8) o Ddeddf 1977;
 ystyr “gwasanaethau Rhan II”(“Part II services”) yw gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu wasanaethau fferyllol o dan Ran II o Ddeddf 1977;
 ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi'i gofrestru fel aelod o broffesiwn gofal iechyd;
 ystyr “proffesiwn gofal iechyd”(“health care profession”) yw proffesiwn y mae adran 60(2) o'r Ddeddf yn gymwys iddo;
 ystyr “y Rheoliadau Swyddogaethau” (“the Functions Regulations”) yw Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) 2000;
 ystyr “trefniadau llywodraethu clinigol” (“clinical governance arrangements”) yw trefniadau gan gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu ddarparydd gwasanaethau ar gyfer monitro a gwella ansawdd y gofal iechyd y mae ganddynt gyfrifoldeb drosto;
 ystyr “ymchwiliad gwasanaeth iechyd” (“health service inquiry”) yw ymchwiliad a gynhelir neu a sefydlir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i unrhyw fater ynglŷn â rheoli, darparu, ac ansawdd y gofal iechyd y mae cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu ddarparwyr gwasanaethau yn gyfrifol amdanynt;
(3) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
RHAN II
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) , rhaid i'r Comisiwn, cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, baratoi rhaglen waith yn nodi'r gweithgareddau y mae'r Comisiwn i ymgymryd â hwy yn y flwyddyn honno wrth arfer ei swyddogaethau.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi 1 Ebrill 2000 rhaid i'r Comisiwn baratoi rhaglen waith mewn perthynas â gweddill y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw a dehonglir cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “blwyddyn” a “rhaglen waith” yn unol â hynny.
(3) Rhaid i bob rhaglen waith, mewn perthynas a'r flwyddyn honno, nodi —
(a) unrhyw faterion penodol y mae'r Comisiwn i ddarparu cyngor neu wybodaeth ar drefniadau llywodraethu clinigol ynglŷn â hwy;
(b) cynigion o ran y cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae'r Comisiwn i gynnal adolygiadau lleol ynglŷn â hwy;
(c) unrhyw faterion penodol y mae'r Comisiwn i'w hystyried neu i'w cymryd i ystyriaeth wrth gynnal adolygiad lleol neu adolygiad gwasanaeth gwladol; ac
(ch) y mathau penodol o ofal iechyd sydd i fod yn destun unrhyw adolygiadau gwasanaeth gwladol ac adroddiadau o dan adran 20(1)(d) o'r Ddeddf.
(4) Bydd y rhaglen waith yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Gellir amrywio'r rhaglen waith —
(a) gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b) fel y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu.
(6) Yn ddarostyngedig i'r rheoliadau canlynol ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau mewn unrhyw flwyddyn ariannol benodol yn unol â'r rhaglen waith ynglŷn â'r flwyddyn honno.
RHAN III
3 

(1) Bydd y Comisiwn yn darparu cyngor neu wybodaeth am drefniadau llywodraethu clinigol i —
(a) y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol; a
(c) darparwyr gwasanaethau.
(2) Rhaid i'r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gais gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu cyngor neu wybodaeth am agweddau penodol ar drefniadau llywodraethu clinigol —
(a) i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(b) i gyrff penodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol; ac
(c) i ddarparwyr gwasanaethau penodol.
(3) Caiff y Comisiwn ddarparu cyngor neu wybodaeth am drefniadau llywodraethu clinigol i unrhyw berson arall neu gorff arall sy'n gwneud cais am gyngor neu wybodaeth o'r fath.
4 
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 20(1)(a) o'r Ddeddf a rheoliad 2(a) a (b) o'r Rheoliadau Swyddogaethau rhaid i'r Comisiwn gymryd i ystyriaeth —
(a) unrhyw ganllawiau ynglŷn â threfniadau llywodraethu clinigol a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Glinigol;
(b) unrhyw gyngor neu ganllawiau ynglŷn â threfniadau llywodraethu clinigol a roddir gan unrhyw gorff sy'n gyfrifol am reoli proffesiwn gofal iechyd.
RHAN IV
5 
Wrth gynnal adolygiad lleol rhaid i'r Comisiwn asesu effeithiolrwydd trefniadau'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan sylw ac ystyried a yw'r trefniadau hynny'n ddigonol.
6 

(1) Ar ôl i adolygiad lleol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn nodi —
(a) canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn; a
(b) unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiwn.
(2) Rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad o'r fath.
7 

(1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad lleol y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, dod ag ef i sylw —
(a) unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt; a
(b) y cyhoedd,
 caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud ar ddiwedd yr adolygiad.
(2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —
(a) y corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n destun yr adolygiad lleol;
(b) y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) at y canlynol —
(a) y corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n destun yr adolygiad lleol;
(b) y Cynulliad Cenedlaethol;
(c) unrhyw gorff y gwasanaeth iechyd gwladol neu ddarparydd gwasanaethau neu unrhyw berson neu gorff arall sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y dylid anfon copi o'r adroddiad atynt.
(4) Yn ychwanegol at anfon copïau o'r adroddiad at y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o'r adroddiad.
8 

(1) Pan ddaw adolygiad lleol i ben, rhaid i'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.
(2) Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Cyn penderfynu a gymeradwyir datganiad a baratoir o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.
RHAN V
9 

(1) Pan ddaw adolygiad gwasanaeth gwladol i ben rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn.
(1) Rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad o'r fath.
RHAN V
10 

(1) Rhaid i'r Comisiwn gynnal ymchwiliad pan wneir cais iddo wneud hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Caiff y Comisiwn gynnal ymchwiliad —
(a) pan gaiff y Comisiwn gais i ymchwilio gan unrhyw berson neu gorff; neu
(b) pan yw fel arall yn ymddangos i'r Comisiwn ei bod yn briodol gwneud hynny.
(3) Pan yw'r Comisiwn yn cynnal ymchwiliad ar gais y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid iddo ymchwilio i'r materion hynny sy'n dod o dan adran 20(1) (c) o'r Ddeddf neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau a gaiff eu pennu yn y cais.
(4) Pan yw'r Comisiwn yn cynnal ymchwiliad mewn unrhyw achos arall, caiff ymchwilio i'r materion hynny sy'n dod o dan adran 20(1)(c) o'r Ddeddf neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau fel y gwêl yn dda.
11 
Pan yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i'r Comisiwn roi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i gynnal ymchwiliad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad hwnnw ddechrau —
(a) i unrhyw gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu ddarparydd gwasanaethau sydd yn destun ymchwiliad;
(b) yn achos ymchwiliad o dan reoliad 10(2) ynglŷn ag Awdurdod Iechyd, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i'r Cynulliad Cenedlaethol; ac
(c) yn achos ymchwiliad ynglŷn â darparydd gwasanaethau, i'r Awdurdod Iechyd perthnasol.
12 

(1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad lleol y mae'n credu y dylai yn briodol fod yn destun ymchwiliad, caiff y Comisiwn ddechrau ymchwiliad i'r mater hwnnw.
(2) Os bydd y Comisiwn yn penderfynu dechrau ymchwiliad rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig, lle mae hynny'n rhesymol ymarferol, o'i benderfyniad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad ddechrau —
(a) i'r corff sy'n destun yr adolygiad lleol; a
(b) mewn achos lle mae'r corff sy'n destun adolygiad lleol yn Awdurdod Iechyd, yn Awdurdod Iechyd Arbennig neu'n Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Pan yw'r Comisiwn yn dechrau ymchwiliad o'r fath, caiff y Comisiwn atal neu barhau â'r adolygiad lleol ac, os yw'r adolygiad lleol wedi'i atal, ailddechrau'r adolygiad ar unrhyw adeg.
13 

(1) Ar ôl i ymchwiliad y gwnaed cais amdano gan y Cynulliad Cenedlaethol ddod i ben rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ac anfon copi o'r adroddiad —
(a) at unrhyw berson neu gorff a fu'n destun yr ymchwiliad; a
(b) yn achos ymchwiliad ynglŷn â darparydd gwasanaethau at yr Awdurdod Iechyd perthnasol.
(2) Ar ôl ymchwiliad y gwnaed cais amdano gan unrhyw berson neu gorff arall ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r person neu'r corff hwnnw ac anfon copi o'r adroddiad —
(a) at unrhyw berson neu gorff a fu'n destun yr ymchwiliad;
(b) at y Cynulliad Cenedlaethol; ac
(c) yn achos ymchwiliad ynglŷn â darparydd gwasanaethau, at yr Awdurdod Iechyd perthnasol.
(3) Ar ôl i ymchwiliad ddod i ben mewn unrhyw achos arall, rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r person neu'r corff a fu'n destun yr ymchwiliad ac yn anfon copi o'r adroddiad —
(a) at y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) yn achos ymchwiliad ynglŷn â darparydd gwasanaethau, at yr Awdurdod Iechyd perthnasol
(4) Rhaid i adroddiad a wneir o dan baragraffau (1), (2) neu (3) nodi —
(a) canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn;
(b) unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiwn.
(5) Rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynododeb o unrhyw adroddiad o'r fath.
14 

(1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs ymchwiliad y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, dod ag ef i sylw —
(a) unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt; a
(b) y cyhoedd,
caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad a wneir ar ddiwedd yr ymchwiliad.
(2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)
(a) unrhyw gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu ddarparydd gwasanaethau sy'n destun yr ymchwiliad;
(b) y Cynulliad Cenedlaethol;
(c) mewn achos lle mae darparydd gwasanaethau yn destun ymchwiliad, yr Awdurdod Iechyd Perthnasol.
(3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) at y canlynol—
(a) unrhyw gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu darparydd gwasanaethau sy'n destun yr ymchwiliad;
(b) y Cynulliad Cenedlaethol;
(c) mewn achos y mae paragraff (2)(c) yn gymwys iddo ef, yr Awdurdod Iechyd perthnasol;
(ch) unrhyw gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol arall neu ddarparydd gwasanaethau neu berson arall neu gorff arall sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y dylid anfon copi o'r adroddiad atynt.
(4) Yn ychwanegol at anfon copïau o'r adroddiad at y personau y cyfeirir atynt ym mhagraff (3), rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o'r adroddiad.
15 

(1) Pan ddaw ymchwiliad i ben, rhaid i unrhyw gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.
(2) Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Cyn penderfynu a gymeradwyir datganiad a baratoir o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.
RHAN VII
16 

(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff personau a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y Comisiwn ar unrhyw adeg resymol fynd ac archwilio tir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn cynnal adolygiadau lleol, adolygiadau gwasanaeth gwladol neu ymchwiliadau.
(2) Rhaid rhoi tystiolaeth ysgrifenedig i bob person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) o awdurdod y person hwnnw ac wrth wneud cais i gael mynediad i dir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol at y dibenion a bennir ym mharagraff (1), rhaid iddynt ddangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddynt gan feddiannydd y tir a'r adeiladau neu gan berson sy'n gweithredu ar ran y meddiannydd.
(3) Rhaid i berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) beidio â hawlio mynediad i dir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel hawl oni fydd y corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n berchen ar y tir a'r adeiladau neu'n eu rheoli wedi cael hysbysiad rhesymol o'r mynediad a fwriedir.
(4) Ni chaiff neb a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) fynd i unrhyw dir neu adeiladau neu ran o dir ac adeiladau a ddefnyddir fel llety preswyl ar gyfer personau a gyflogir gan unrhyw gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, heb yn gyntaf gael cydsyniad y swyddogion sy'n preswylio yn y llety hwnnw.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, caiff person a awdurdodwyd gan y Comisiwn o dan baragraff (1) sy'n mynd i dir ac adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan y rheoliad hwn archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfennau —
(a) y mae'n ymddangos i'r person a awdurdodwyd eu bod yn angenrheidiol at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad o dan sylw; a
(b) sy'n cael eu cadw ar y tir neu yn yr adeiladau gan —
(i) y corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n berchen ar y tir neu'r adeiladau neu sy'n eu rheoli;
(ii) cadeirydd, aelod, cyfarwyddydd neu gyflogai'r corff hwnnw;
(iii) unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran y corff hwnnw; neu
(iv) aelod o bwyllgor neu is—bwyllgor o'r corff hwnnw.
17 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad lleol neu ymchwiliad gall y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo ddangos unrhyw ddogfennau neu wybodaeth y mae'n ymddangos i'r Comisiwn, neu i'r person a awdurdodwyd, eu bod yn angenrheidiol at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad o dan sylw.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad lleol neu ymchwiliad, gall y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn, os yw'r Comisiwn neu'r person hwnnw yn credu ei bod yn angenrheidiol, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo roi i'r Comisiwn, neu fel y bo'r digwydd, y person a awdurdodwyd, esboniad am y canlynol —
(a) unrhyw faterion sy'n destun yr adolygiad neu'r ymchwiliad; neu
(b) unrhyw ddogfennau neu wybodaeth a gafodd eu harchwilio, eu copïo neu eu dangos o dan baragraff (1) neu reoliad 16(5).
(3) Caiff y Comisiwn, os yw'n credu ei bod yn angenrheidiol, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae'n ofynnol iddo —
(a) dangos dogfennau neu wybodaeth o dan baragraff (1); neu
(b) rhoi esboniad o dan baragraff (2),
fod yn bresennol gerbron y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) yn bersonol i ddangos y dogfennau neu'r wybodaeth neu i roi'r esboniad.
(4) Ni chaiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn bersonol yn unol â pharagraff (3) oni roddwyd hysbysiad rhesymol o'r dyddiad y bwriedir iddo fod yn bresennol i'r person hwnnw.
(5) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) —
(a) corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
(b) cadeirydd, aelod, cyfarwyddydd neu gyflogai i gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran corff o'r fath;
(c) aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor o gorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
(ch) darparydd gwasanaethau;
(d) cyflogai i ddarparydd gwasanaethau, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran darparydd o'r fath;
(dd) person sy'n darparu neu'n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau, neu sydd yn aelod o neu'n gyflogai i berson neu gorff sy'n darparu neu'n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau o dan Ddeddf 1977, neu mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997, yn unol â chontract a wnaed gyda chorff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, darparydd gwasanaethau neu berson y mae is-baragraff (e) yn gymwys iddo;
(e) awdurdod lleol sy'n darparu, neu berson a gyflogir gan awdurdod lleol i ddarparu, gwasanaethau o dan Ddeddf 1997, neu mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997, yn unol â threfniadau a wnaed yn rhinwedd adran 31(1) o'r Ddeddf.
18 

(1) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 16 a 17, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur neu mewn unrhyw ffurf electronig arall.
(2) Pan yw'r Comisiwn neu berson a awdurdodwyd o dan reoliad 16(1) yn arfer —
(a) yr hawl o dan reoliad 16(5) i archwilio a chymryd copïau o ddogfennau; neu
(b) yr hawl o dan reoliad 17(1) i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddangos dogfennau;
a bod y dogfennau hynny yn cynnwys gwybodaeth a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur neu mewn unrhyw ffurf electronig arall, gall y Comisiwn neu'r person a awdurdodwyd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal, neu sydd fel arall yn ymwneud â gweithredu'r cyfrifiadur neu'r ddyfais electronig arall sy'n cadw'r wybodaeth honno drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael, neu ddangos yr wybodaeth mewn ffurf weladwy a darllenadwy.
19 

(1) Rhaid i'r Comisiwn neu'r person a awdurdodwyd o dan reoliad 16(1) beidio ag archwilio na chymryd copïau o ddogfennau o dan reoliad 16(5) i'r graddau —
(a) y mae'r dogfennau hynny yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol sy'n berthnasol i unigolyn byw ac yn dynodi pwy ydyw, oni bai bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys; neu
(b) bod archwilio neu gopïo'r dogfennau hynny yn golygu datgelu gwybodaeth os gwaharddwyd y datgelu hwnnw gan unrhyw ddeddfiad neu o dan unrhyw ddeddfiad, onid yw paragraff (4) yn gymwys.
(2) Ni fydd yn ofynnol i berson ddangos dogfennau neu wybodaeth o dan reoliad 17(1) na rhoi esboniad o dan reoliad 17(2) i'r graddau y mae dangos y dogfennau hynny neu'r wybodaeth honno neu roi'r esboniad hwnnw yn datgelu gwybodaeth —
(a) sy'n gyfrinachol ac sy'n berthnasol i unigolyn byw ac yn dynodi pwy ydyw, oni bai bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys; neu
(b) y gwaharddwyd y datgelu gan unrhyw ddeddfiad neu o dan unrhyw ddeddfiad, onid yw paragraff (4) yn gymwys.
(3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(a) a (2)(a) —
(a) y datgelir yr wybodaeth mewn ffurf lle na ellir adnabod yr unigolyn drwyddi;
(b) bod yr unigolyn yn cydsynio i ddatgelu'r wybodaeth;
(c) na ellir olrhain yr unigolyn er cymryd pob cam rhesymol;
(ch) mewn achos lle mae'r Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau o dan adran 20(1)(c) o'r Ddeddf —
(i) nad yw'n ymarferol i ddatgelu'r wybodaeth mewn ffurf na ellir adnabod yr unigolyn drwyddi;
(ii) bod y Comisiwn o'r farn bod risg difrifol i iechyd neu ddiogelwch cleifion yn codi o'r materion sy'n destun yr ymchwiliad;a
(iii) gan ystyried y risg honno a'r brys wrth arfer y swyddogaethau hynny, bod y Comisiwn o'r farn y dylid datgelu'r wybodaeth heb gydsyniad yr unigolyn.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan yw'r gwaharddiad ar ddatgelu gwybodaeth yn gweithredu o achos y ffaith bod yr wybodaeth yn gallu dynodi pwy yw unigolyn; a
(b) pan yw'r wybodaeth o dan sylw mewn ffurf na ellir adnabod yr unigolyn drwyddi.
(5) Mewn achos lle gwaherddir datgelu'r wybodaeth —
(a) gan baragraff (1); neu
(b) gan baragraff (2) a bod y gwaharddiad yn gweithredu o achos y ffaith bod yr wybodaeth yn gallu dynodi pwy yw unigolyn,
gall y Comisiwn neu berson a awdurdodwyd gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n cadw'r wybodaeth roi'r wybodaeth mewn ffurf na ellir adnabod pwy yw'r unigolyn o dan sylw drwyddi, er mwyn i'r wybodaeth gael ei datgelu.
RHAN VIII
20 
Rhaid i'r Comisiwn beidio â chynorthwyo'r Comisiwn Archwilio o dan adran 21(2) o'r Ddeddf heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
21 

(1) Rhaid i'r Comisiwn beidio ag arfer ei swyddogaeth o dan reoliad 2(f) o'r Rheoliadau Swyddogaethau mewn perthynas ag ymchwiliad gwasanaeth iechyd penodol neu ymchwiliad gwasanaeth iechyd arfaethedig heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Wrth arfer ei swyddogaethau o dan reoliad 2(f) o'r Rheoliadau Swyddogaethau rhaid i'r Comisiwn gymryd i ystyriaeth unrhyw gyngor neu ganllawiau ynglŷn ag ymchwiliadau gwasanaeth iechyd a roddir i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. 30 Mawrth 2000
D. Elis Thomas
Llywydd y CynulliadCenedlaethol
