
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999 a daw i rym ar 1 Ionawr 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“the Act”);
 ystyr “dyddiad gweithredol” yw'r dyddiad y mae'r ymddiriedolaeth i fod i ddechrau ymgymryd â'r cyfan o'r swyddogaethau a drosglwyddid iddi (“operational date”);
 ystyr “dyddiad sefydlu” yw 1 Ionawr 2000 (“establishment date”);
 ystyr “yr ymddiriedolaeth” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn (“the trust”).
2 
Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth NHS a elwir Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro neu Cardiff and Vale National Health Service Trust.
3 

(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 5(1) o'r Ddeddf.
(2) Darparu nwyddau a gwasanaethau er diben y gwasanaeth iechyd o'r ysbytai a bennir ym mharagraff (3) neu o ysbytai a thir ac adeiladau cysylltiol fydd swyddogaethau'r ymddiriedolaeth.
(3) Dyma'r ysbytai a bennir er diben paragraff (2) —
i) Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4WZ;
ii)  Ysbyty Llandoche, Llandoche, Penarth, CF64 2XX;
iii) Ysbyty'r Eglwys Newydd, Park Road, Caerdydd, CF14 7XB;
iv) Ysbyty Royal Hamadryad, Hunter Street, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5UQ; a
v) Yr Ysbyty a'r Ysgol Ddeintyddol, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XW.
4 

(1) Yn ychwanegol at y cadeirydd, bydd gan yr ymddiriedolaeth 7 cyfarwyddwr anweithredol a 5 o gyfarwyddwyr gweithredol.
(2) Gan y bydd yr ymddiriedolaeth yn cael ei hystyried fel un a chanddi ymrwymiad addysgu sylweddol o fewn ystyr y paragraff 3(1)(d) o Atodlen 2 i'r Ddeddf, penodir un o'r cyfarwyddwyr anweithredol o Brifysgol Cymru.
5 

(1) 1 Ebrill 2000 fydd dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth.
(2) 31 Mawrth fydd dyddiad cyfrifo'r ymddiriedolaeth.
6 
Rhwng ei dyddiad sefydlu a'i dyddiad gweithredol bydd gan yr ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol —
(a) gwneud contractau NHS;
(b) gwneud contractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c) gwneud y pethau eraill sy'n rhesymol angenrheidiol i'w galluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'i dyddiad gweithredol ymlaen.
7 

(1) Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf —
(a) yn trefnu bod y staff a'r cyfleusterau hynny y mae eu hangen i alluogi'r ymddiriedolaeth i gyflawni ei swyddogaethau cyfyngedig ar gael i'r ymddiriedolaeth tan y dyddiad gweithredol hyd nes bod staff yn cael eu trosglwyddo neu eu penodi i'r ymddiriedolaeth neu ganddi a bod cyfleusterau yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth;
(b) yn trefnu bod yr adeiladau hynny y bydd eu hangen ar gael i alluogi'r ymddiriedolaeth i gyflawni ei swyddogaethau cyfyngedig tra'n aros i'r adeiladau hynny gael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth.
(2) Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf yn talu dyledion yr ymddiriedolaeth, y bydd wedi mynd iddynt rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol, ac sy'n cyd-fynd â'r disgrifiad a nodir ym mharagraff (3) o'r erthygl hon.
(3) Mae'r dyledion y cyfeirir atynt yn y paragraff blaenorol fel a ganlyn —
(a) dyled am dâl a lwfansau teithio a lwfansau eraill y cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol yr ymddiriedolaeth;
(b) dyled am lwfansau teithio a lwfansau eraill aelodau'r pwyllgorau ac is-bwyllgorau'r ymddiriedolaeth nad ydynt yn gyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth hefyd;
(c) dyled am dâl personau a gyflogir gan yr ymddiriedolaeth; ac
(ch) unrhyw ddyled arall y gellid yn rhesymol fynd iddi gan yr ymddiriedolaeth er mwyn ei galluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
15 Rhagfyr 1999