
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 1999.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
2 
Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
(a) ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1, yn lle'r fformwla “(A × £39.50) + (B × 0.00087)” y rhoddir y fformwla “(A × £39.90) + (B × 0.00078)”;
(b) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” y rhoddir “1.005”;
(c) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 y rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 1999
ATODLEN
“
ATODLEN 4
Erthygl 2


Ardal awdurdod bilio Ffigur a ragnodwyd
Blaenau Gwent 54,700
Pen-y-bont ar Ogwr 101,200
Caerffili 127,500
Sir Gaerfyrddin 132,900
Caerdydd 243,600
Ceredigion 56,800
Conwy 88,900
Sir Ddinbych 70,500
Sir y Fflint 113,400
Gwynedd 91,700
Ynys Môn 50,200
Merthyr Tudful 42,400
Sir Fynwy 67,200
Castell-nedd Port Talbot 107,300
Casnewydd 104,900
Sir Benfro 87,400
Powys 98,700
Rhondda, Cynon, Taf 183,900
Abertawe 179,400
Tor-faen 68,300
Bro Morgannwg 92,000
Wrecsam 96,300”