
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyniad Rhif 1) (Cymru) 1999.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1977” yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“the 1977 Act”);
 ystyr “Deddf 1990” yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“the 1990 Act”).
 ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd 1999 (“the Act”);
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) 1 Tachwedd 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.
(2) 1 Rhagfyr 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.
3 
Er gwaethaf y diddymiadau a achosir gan baragraff 83(1) a (4) o Atodlen 4 i'r Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, ymdrinir ag unrhyw gyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau NHS yng Nghymru a roddir o dan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1990 ac sydd mewn grym yn union cyn 1 Rhagfyr 1999 fel petaent wedi'u rhoi o dan, ac at ddibenion, adran 17 o Ddeddf 1977.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
28 Hydref 1999
ATODLEN 1
Erthygl 2(1)


 Adran 13 (Gorchmynion sefydlu Ymddiriedolaethau NHS)
 Adran 14 (Ymddiriedolaethau NHS: arfer pwerau)
 Adran 15 (Cyfalaf difidend cyhoeddus Ymddiriedolaethau NHS)
 Adran 16 (Trosi benthyciadau cychwynnol Ymddiriedolaethau NHS sy'n bodoli eisoes)
 Adran 17 (Benthyca gan Ymddiriedolaethau NHS)
 Adran 18 (Dyletswydd Ansawdd) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol
 Adran 28 (Cynlluniau ar gyfer gwella iechyd etc.) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol
 Adran 65(1) (Diwygiadau i ddeddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a nodir isod)
 Atodlen 4 –
 paragraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 37 isod)
 paragraff 37(5) a (6) a pharagraff 37(1) i'r graddau y mae'n ymwneud a hwy
 paragraff 79(2)(a) ac (c) a pharagraff 79(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy

ATODLEN 2
Erthygl 2(2)


 Adran 12 (Cyfarwyddiadau) –
 is-adran (1) i'r graddau y mae'n ymwneud â mewnosod adrannau newydd 16D a 17 o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol ac adran 28 o'r Ddeddf
 is-adran (2)
 is-adran (3) a (4), i'r graddau y maent yn ymwneud ag is-adran (1)is-adran (5)
 Adran 65(1) (Diwygiadau i ddeddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod)
 Atodlen 4 –
 paragraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw un o'r paragraffau 5 i 39 a bennir isod)
 paragraff 5
 paragraff 6
 paragraff 9 (i'r graddau y mae'n ymwneud â mewnosod adran 16 newydd o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)
 paragraff 12(3)(b) a pharagraff 12(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
 paragraff 15
 paragraff 26
 paragraff 30(2) a pharagraff 30(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
 paragraff 31(3) a pharagraff 31(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
 paragraff 32
 paragraff 34(b)
 paragraff 37(4) (i'r graddau y mae'n ymwneud â mewnosod adrannau newydd 16D ac 17 o Ddeddf 1977 gan adran 12(1) o'r Ddeddf) a pharagraff 37(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
 paragraff 38(3) (i'r graddau y mae'n mewnosod is-adran (1A) o adran 128 o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y mae'r is-adran honno'n ymwneud ag adran 17A o Ddeddf 1977 ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol) a pharagraff 38(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
 paragraff 39
 paragraff 74 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw un o'r paragraffau 75 i 83 isod)
 paragraff 75
 paragraff 76(b)
 paragraff 83(4) a pharagraff 83(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
 paragraff 88(5) a pharagraff 88(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
