
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Trwsio Cartref (Estyn) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 17 Tachwedd 1999.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn dros Gymru'n unig.
2 
Estynnir argaeledd cymorth trwsio cartref drwy drin lwfans ceisio gwaith ar sail incwm fel un o'r budd-daliadau a restrir yn is-adran (1)(e) o adran 77 (bod â hawl i gymorth trwsio cartref) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol
16 Tachwedd 1999