
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.
(2) Diddymir Rheoliadau (Addysgedau Hyfforddi Athrawon) 1994 a Rheoliadau (Addysgedau ar gyfer Hyfforddiant Athrawon) (Diwygio) 1995 yn eu hymwneud â Chymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “athro cymwysedig” yw person sydd, yn unol â'r Rheoliadau ynglŷn â chyflogi athrawon sydd mewn grym o bryd i'w gilydd o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, yn gymwysedig i gael ei gyflogi fel athro mewn ysgol y mae'r adran honno yn gymwys iddi;
 ystyr “Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “gwyddoniaeth” yw un neu fwy o'r pynciau bioleg, cemeg a ffiseg; ac
 ystyr “sefydliad achrededig” yw sefydliad a achredwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fel darparydd cyrsiau sy'n bodloni'r darpariaethau hynny ynglyŷn â chwricwla a'r meini prawf eraill y gall y Cynulliad o bryd i'w gilydd eu pennu.
3 

(1) Caiff y Cynulliad, yn unol â'r Rheoliadau hyn, wneud taliadau fel cymhelliant i bersonau gael eu hyfforddi i fod yn athrawon mathemateg a gwyddoniaeth, os yw'r personau hynny yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
(2) Bydd taliad cyntaf nad yw'n fwy na £2,500 ar gyfer unrhyw berson yn daladwy yn unol â rheoliad 4.
(3) Bydd ail daliad nad yw'n fwy na £2,500 ar gyfer unrhyw berson yn daladwy yn unol â rheoliad 5.
4 

(1) Bydd taliad cyntaf (a all fod yn daladwy drwy randaliadau) fod yn daladwy i berson mewn perthynas â chwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon addysgu mathemateg neu wyddoniaeth i ddisgyblion sy'n cael addysg uwchradd, a ddarperir mewn sefydliad achrededig yng Nghymru, ac sy'n peri bod y person yn dod yn athro cymwysedig.
(2) Gall y Cynulliad wneud taliad o dan baragraff (1) drwy ddarparu cyllid i sefydliad achrededig i'w talu i berson ar yr adegau hynny a gyfarwyddir gan y Cynulliad.
(3) Ni wneir unrhyw daliad o dan baragraff (1) i berson sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon.
(4) Bydd taliadau o dan baragraff (1) yn daladwy ynglyŷn â'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs y maent wedi'u rhoi ar ei gyfer.
(5) Os na fydd person yn cwblhau'r cwrs am resymau afiechyd neu oherwydd gohiriad o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer, gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru estyn y cyfnod y gellir gwneud y taliadau ar ei gyfer o dan baragraff (1).
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) bydd taliad nad yw'n fwy na £2,500 yn daladwy i berson —
(a) sydd wedi cael y swm llawn a ddyfarnwyd fel taliad cyntaf o dan y Rheoliadau hyn neu drefniadau sy'n gymwys yn Lloegr ar gyfer y rhai sy'n cael hyfforddiant i fod yn athrawon mathemateg neu wyddoniaeth;
(b) sydd wedi dod yn athro cymwysedig/athrawes gymwysedig yng Nghymru neu Loegr; ac
(c) sydd wedi derbyn swydd addysgu o dan gontract am o leiaf un tymor ysgol i addysgu mathemateg a/neu wyddoniaeth mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru.
(2) Ni wneir unrhyw daliad o dan baragraff (1) i berson sydd wedi derbyn swydd mewn ysgol gynradd oni fydd gan y person hwnnw'r cyfrifoldeb arweiniol dros y cwricwlwm mathemateg a/neu wyddoniaeth yn yr ysgol.
(3) Ni wneir unrhyw daliad o dan baragraff (1) i berson sydd wedi derbyn swydd fwy na 10 mis (plws unrhyw hawl mamolaeth statudol) ar ôl gorffen y cwrs y cafodd y person hwnnw daliad ar ei gyfer o dan reoliad 4 (1).
Dafydd Elis Thomas
The Presiding Officer of the National Assembly for Wales
31 Awst 1999