
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.
(2) Dim ond i ysgolion yng Nghymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.
(3) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “yr awdurdod” yw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal ysgol;
 ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Gorchymyn adran 512A” yw gorchymyn o dan adran 512A(1) o Ddeddf Addysg 1996(a) sy'n rhoi dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol sy'n cyfateb i ddyletswydd ar yr awdurdod a grybwyllir yn adran 512A(2) o'r Ddeddf honno (dyletswydd i ddarparu ciniawau ysgol) neu adran 512(2)(b) o'r Ddeddf honno (dyletswydd i ddarparu ciniawau ysgol yn rhad ac am ddim);
 ystyr “staff prydau bwyd ysgolion” yw pobl a gyflogir, neu sydd i'w cyflogi, gan awdurdod i weithio mewn ysgol mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd yn unig;
 ystyr “ysgol” yw ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol a honno'n ysgol ac iddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf)
2 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 4 a pharagraff (2), bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgol.
(2) Cyn arfer unrhyw swyddogaeth o dan y rheoliad hwn rhaid i'r awdurdod ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol y mae'r aelod o staff prydau bwyd yr ysgol dan sylw yn gweithio ynddi i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.
3 

(1) Pan fydd Gorchymyn adran 512A mewn grym, ond bod corff llywodraethu ysgol y mae'r gorchymyn yn gymwys iddo wedi gwneud cytundeb â'r awdurdod y bydd yr awdurdod yn darparu ciniawau yn yr ysgol, yna bydd y paragraffau canlynol o'r rheoliad hwn yn gymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgol yr ysgol.
(3) Cyn arfer unrhyw swyddogaeth o dan baragraff (2) bydd yr awdurdod yn ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.
(4) Os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu y dylai unrhyw aelod o staff prydau bwyd yr ysgol beidio â gweithio yn yr ysgol rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod o'i benderfyniad a'r rhesymau drosto ac ar hynny bydd yr awdurdod yn mynnu bod y person hwnnw yn peidio â gweithio yn yr ysgol.
4 

(1) Pan fydd Gorchymyn 512A mewn grym, ond nad yw corff llywodraethu ysgol y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo wedi gwneud cytundeb â'r awdurdod y bydd yr awdurdod yn darparu ciniawau yn yr ysgol, yna bydd paragraffau 22 a 24-29 o Atodlen 16 i'r Ddeddf yn gymwys i benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion.
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26th Awst 1999